Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathliadau Gwyl Ddewi Sir y Fflint

Published: 23/02/2022

Menter Iaith.jpgEleni, mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam wedi trefnu pythefnos gyfan yn llawn o weithgareddau i ddathlu Gwyl Ddewi rhwng Chwefror 19eg a Mawrth y 5ed. 

Yn dilyn llwyddiant dathliadau rhithiol Gwyl Ddewi y llynedd, rydym yn awyddus i sicrhau bod rhywbeth at ddant pawb eto eleni. 

Mae ysgolion y sir wedi bod yn brysur iawn yn paratoi gwaith ar gyfer ein cystadlaethau Gwyl Ddewi.  Cofiwch ymweld ag ein cyfryngau cymdeithasol i weld yr holl waith gwych a’r canlyniadau drwy gydol wythnos 1af-5ed.  

Byddwn hefyd yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau rhithiol i’w mwynhau gan gynnwys fideos dylunio Orielodl, gweithdai coginio a mwy.  

Yn ogystal byddwn yn rhannu gwybodaeth am weithgareddau Cymraeg a dwyieithog lleol eraill dros y pythefnos gan y Fenter a mudiadau eraill. Cewch weld gwybodaeth am rhain oll ar gyfryngau cymdeithasol Menter Iaith Fflint a Wrecsam.  

Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:  

“Rydym ni’n falch iawn o fod yn gweithio gyda Menter Iaith Fflint a Wrecsam unwaith eto i ddathlu Dydd Gwyl Dewi.  Mae dathlu ein diwylliant a’n treftadaeth yn ddigwyddiad arbennig iawn yn Sir y Fflint ac yn bwysig iawn i ni hefyd.  Mae’r rhaglen ddigwyddiadau yn gyfle i bawb gymryd rhan a mwynhau’r dathliadau. 

"Hoffaf ddiolch i’r Fenter am eu gwaith caled yn llunio’r rhaglen amrywiol hon ac i’r sefydliadau sy’n ymwneud ac yn cymryd rhan yn y digwyddiadau.”  

Dywedodd Prif Swyddog Menter Iaith Fflint a Wrecsam, Gill Stephen; 

“Mae dathliadau Gwyl Ddewi wedi bod yn tyfu o ran poblogrwydd pob blwyddyn ac erbyn hyn wedi’u sefydlu fel digwyddiadau hynod boblogaidd a blaenllaw yng nghalendr pobl Sir y Fflint. Dyma gyfle i bawb ddathlu Cymreictod y sir ac mae croeso mawr i bawb o bob oedran ymuno yn yr hwyl, siaradwyr Cymraeg ai peidio.”

Os am ymuno yn y dathliadau mewn unrhyw ffordd, cofiwch ddefnyddio’r hashnod #DewiSiryFflint a dilynwch wefannau cymdeithasol Menter Iaith Fflint a Wrecsam am ddiweddariadau.