Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor “cyfeillgar i rieni maeth” cyntaf Cymru

Published: 11/11/2016

Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gefnogi a chymeradwyo polisi a fydd yn golygu mai Sir y Fflint fydd y cyngor cyntaf yng Nghymru i fod yn “gyfeillgar i rieni maeth”. Maer Cyngor hefyd yn annog mwy o fusnesau lleol i fabwysiadu trefniant gweithio hyblyg a chefnogol ar gyfer unrhyw aelod o staff syn maethu drwyr Cyngor. Mae yna 64,000 o blant mewn gofal yn y Deyrnas Unedig, a chyda plentyn yn dod i mewn i ofal bob 20 munud mae angen dybryd am fwy o ofalwyr maeth. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: “Rydym ni’n falch iawn mai ni yw cyngor “cyfeillgar i rieni maeth” cyntaf Cymru. Rydym ni’n cynnig pum niwrnod ychwanegol o wyliau blynyddol i’n gweithwyr er mwyn iddyn nhw ymgymryd âr hyfforddiant i faethu drwom ni. Ar ôl cael eu cymeradwyo fel gofalwyr maeth, byddan nhw’n gallu cymryd pum niwrnod ychwanegol y flwyddyn i fynychu cyfarfodydd a hyfforddiant pellach. “Rhan or ymgyrch genedlaethol i annog mwy o bobl i faethu yw chwalu’r chwedl” nad ydych chi’n cael gweithio os ydych chi’n ofalwr maeth. Nod y polisi yma yw cefnogi’r gweithwyr sydd eisoes yn ofalwyr maeth ac annog y rheiny sy’n ystyried dod yn ofalwyr maeth i gymryd y cam hwnnw, gan ddod yn fodelau rôl cadarnhaol ac ehangur gronfa o ofalwyr maeth sydd ar gael. Bydd hyn yn golygu y gellir paru mwy o blant mewn gofal gydar gofalwyr maeth gorau ar eu cyfer. Gall cefnogaeth y cyflogwr wneud gwahaniaeth mawr i’r rheiny sy’n penderfynu maethu ai peidio.” Mae llawer o ofalwyr maeth yn cyrraedd oed ymddeol ac mae hynny’n mynd i roi rhagor o bwysau ar y gronfa o ofalwyr maeth yn y dyfodol. I fynd ir afael âr heriau maethu cenedlaethol, ac i geisio annog mwy o weithwyr i ddod yn ofalwyr maeth, maer Llywodraeth wedi galw ar gyflogwyr i fod yn ystyriol o rieni maeth. Maer polisi a ddatblygwyd gan y Rhwydwaith Maethu yn annog cyflogwyr i ddarparu hyblygrwydd ac amser i ffwrdd ar gyfer gweithwyr syn ddarpar ofalwyr maeth ac yn mynd drwyr broses o wneud cais i fod yn ofalwyr maeth. Mae’r polisi hefyd yn cefnogi gofalwyr maeth sydd eisoes yn darparu gofal i blant syn derbyn gofal, i dalu am unrhyw hyfforddiant, mynychu paneli a gwrandawiadau ac i ymateb i unrhyw argyfwng.