Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		TripAdvisor Parc Gwepre
  		Published: 08/07/2014
Mae ymwelwyr â Pharc Gwepre wedi rhoi sgôr uchel i’r atyniad lleol ar 
TripAdvisor, gwefan deithio fwyaf y byd.
Mae adolygiadau gwych wedi golygu bod y parc gwledig yng Nghei Connah wedi 
derbyn Tystysgrif Rhagoriaeth 2014 gan y wefan, a sgôr pedair seren a hanner.
Un atyniad syn ffynnu yng Ngwepre ywr cerflun pridd o Fadfall Ddwr Gribog. 
Fe’i crëwyd y llynedd gan y ceidwad cefn gwlad Tim Johnson gyda chymorth y 
contractwr lleol Arwyn Parry, ac mae’r fadfall ddwr fawr wedi ei cherflunio o 
bridd dros ben o brosiect draenio. 
Penderfynodd y ceidwaid ar fadfall ddwr gan fod Parc Gwepre yn Safle o 
Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ar gyfer y rhywogaeth sydd mewn perygl.  Mae 
hadau blodau gwyllt a blannwyd yn y cerflun pridd wedi aeddfedu ac maer 
fadfall yn blodeuo gyda phabi, penlas yr yd a llygad y llo mawr. Gellir ei weld 
ger y cae pêl-droed top, ar flaen y parc.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Maer 
cerflun wedi symud ymlaen ers y llynedd pan oedd yn edrych yn drawiadol fel 
pridd yn unig. Nawr bod y planhigion wedi tyfu mae’n hafan o flodau gwyllt ac 
yn werth ymweld â ef.  Maer sgôr gan TripAdvisor yn brawf bod gennym nifer o 
atyniadau gwych yn Sir y Fflint sy’n werth sôn amdanynt!”
Am fwy o wybodaeth am Barc Gwepra ffoniwch y ganolfan ymwelwyr ar 01244 814931.
Photo caption 1: Y cerflun pridd o fadfall ddwr y llynedd.
Photo caption 2: Blodau wedi agor ar gerflun y fadfall yr haf hwn.