Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Grwp Gorchwyl Amgylcheddol Glannau Dyfrdwy

Published: 14/11/2016

Ar 15 Tachwedd bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried adroddiad ar ganfyddiadau Grwp Gorchwyl Amgylcheddol Glannau Dyfrdwy. Sefydlwyd y grwp i wella glanweithdra coridor Glannau Dyfrdwy rhwng rheilffordd arfordir gogledd Cymru ar B5129. Ers sawl blwyddyn mae’r ardal hon, sydd bennaf yn cynnwys tai teras a lonydd cul sy’n cysylltu â’r rhwydwaith ffyrdd lleol, wedi ei difetha gan lefelau uchel o sbwriel a thipio anghyfreithlon. Maer adroddiad yn manylu ar ganlyniadau prosiect peilot sydd wedi bod ar waith ers mis Tachwedd 2015 i geisio glanhaur ardal. Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys cynnig i gyflwyno camau gorfodi yn erbyn trigolion syn parhau i anwybyddur cyngor a ddarparwyd ac yn gwaredu eu gwastraff mewn modd anystyriol. Cyflwynwyd y prosiect peilot yn dilyn derbyn pryderon a chwynion gan bobl leol ynglyn â thipio anghyfreithlon a sbwriel yn yr ardal. Dechreuodd y prosiect drwy lanhau’r ardal yn sylweddol ac yna cynnal patrolau dyddiol rheolaidd, ac yn y 12 mis diwethaf mae cyfanswm o 92 tunnell o sbwriel a malurion eraill wedi eu cludo o’r ardal. Diben y cam cychwynnol hwn oedd cadwr strydoedd yn lân, annog pobl i ymfalchïo yn eu hardal a lleihau troseddau taflu sbwriel a thipio anghyfreithlon. Yn ogystal, ymwelwyd â phob eiddo yn yr ardal beilot i sicrhau bod trigolion yn deall eu trefniadau casglu gwastraff ac effaith rhoi eu gwastraff allan ar ddiwrnodau eraill. Cafodd preswylwyr nad oedden nhw’n cydymffurfio â hyn eu hatgoffa or weithdrefn gywir ac yn ystod cyfnod y cynllun peilot cyflwynwyd dros 300 o lythyrau rhybudd i drigolion lleol. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr Amgylchedd: “Maer prosiect llwyddiannus hwn bellach yn tynnu i’w derfyn. Heb amheuaeth mae wedi gwella ansawdd yr amgylchedd ond mae cost clirio sbwriel ac eitemau sy’n cael eu tipio yn anghyfreithlon yn dal yn anghynaladwy. Rydym ni wedi ymrwymo i wellar amgylchedd lleol er mwynhad pob un on trigolion a rwan mae arnom ni angen cymryd camau mwy ffurfiol yn erbyn y gyfran fechan o drigolion syn parhau i ymddwyn mewn ffordd anystyriol, er mwyn sicrhau bod yr ardal yn cael ei chadwn lân ac yn daclus er lles pawb.” Maer adroddiad yn cynnig cyflwyno camau gorfodi a fyddain defnyddio pwerau dan Ddeddf Diogelur Amgylchedd 1990. Byddai Hysbysiadau Cosb Benodedig yn cael eu cyflwyno i drigolion am droseddau fel taflu sbwriel a rhoi eu gwastraff allan ar y diwrnod anghywir. Maer adroddiad hefyd yn gofyn am gymeradwyaeth i ymestyn y prosiect peilot i ardaloedd eraill yn y sir sy’n profi problemau tebyg.