Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


‘Esgyn’

Published: 14/11/2016

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi ymuno â rhaglen ‘Esgyn’ Llywodraeth Cymru trwy ddarparu hyfforddiant a gwaith i bobl sy’n ddi-waith yn y tymor hir. Sylvain Jacquin yw’r cyntaf yn CNC i fod yn rhan o’r cynllun ‘Esgyn’. Mae’n ymuno â staff CNC yn swyddfa Gogledd Ddwyrain Cymru ym Mwcle, gan weithio fel cynorthwyydd fflyd a chyfleusterau am wyth wythnos. Bydd dyletswyddau Sylvain yn cynnwys cynnal gwiriadau iechyd a diogelwch ar y cerbydau fflyd a’r swyddfeydd a chynnig gwasanaethau cymorth eraill i’r staff. Mae bron i 200 o bobl eisoes wedi ymuno ag ‘Esgyn’ yn Sir y Fflint, gyda 54 ohonynt wedi llwyddo i ddod o hyd i swyddi ar ôl y cynllun. Erbyn diwedd 2017, nod Llywodraeth Cymru yw cynnig 5,000 o gyfleoedd hyfforddiant a gwaith i bobl sy’n byw ar aelwydydd lle nad oes neb yn gweithio. Meddai Mr Jacquin: “Mae’n braf cael y cyfle i ddiweddaru fy sgiliau cyfrifiadurol mewn amgylchedd swyddfa a chynorthwyo staff CNC yn eu gwaith. Gobeithio y bydd y lleoliad hwn yn gam gwerthfawr ymlaen tuag at gael gwaith yn y dyfodol. “Rydw i hefyd yn mwynhau’r agwedd gymdeithasol o gael gweithio mewn swyddfa – rhywbeth y mae pobl yn ei gymryd yn ganiataol, o bosibl. Ochr yn ochr â’r gwaith gwirfoddol rydw i’n ei wneud, rydw i’n gobeithio y bydd y lleoliad hwn yn esgor ar gyfleoedd gyrfa newydd imi.” Yn ystod y deunaw mis nesaf, mae CNC yn anelu at ddarparu 30 o leoliadau ‘Esgyn’ trwy Gymru. Mae un i fod i ddechrau ym Mangor yn y Flwyddyn Newydd, gydag eraill ar y gweill ar gyfer Caerdydd a Llandarsi. Meddai Emyr Roberts, Prif Weithredwr CNC: “Wrth weithio ochr yn ochr â’n staff, rydw i’n gobeithio y bydd Sylvain – ac eraill fydd yn ymuno â ni yn ystod y misoedd nesaf – yn elwa ar yr hyfforddiant a’r profiad gwaith. “Mae’n gyfle i ennill sgiliau newydd a fydd yn eu rhoi mewn gwell sefyllfa i ddod o hyd i waith tymor hir.” Meddai Debbie Barker, Mentor Esgyn yn Sir Fflint: “Dyma gyfle gwych, nid yn unig i Sylvain ond i eraill yn y sir. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n cynnig hyfforddiant gwych, drwy brofiad gwaith, mewn gweithle cyffrous a diddorol. Dwi’n edrych mlaen at barhau i gyd-weithio.” Meddai Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant Llywodraeth Cymru, Carl Sargeant: “Mae’r cynllun Esgyn yn rhan allweddol o’n gwaith i fynd i’r afael â thlodi yng Nghymru, drwy gynnig cefnogaeth i rai o’r cartrefi mwyaf difreintiedig. “Dwi’n falch iawn fod CNC yn cefnogi’r cynllun drwy gynnig hyfforddiant a phrofiad gwaith fydd yn helpu pobol symud tuag at waith.” Mae’r rhaglen ‘Esgyn’ yn canolbwyntio ar bobl mewn cartrefi lle nad oes neb wedi gweithio am fwy na chwe mis ac sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf o ran dod o hyd i waith. Mae’r cynllun ar gael mewn naw ardal ar hyd a lled Cymru. Ers ei lansio ym Mawrth 2014, mae’r cynllun wedi cynnig 3,900 o gyfleoedd hyfforddiant a phrofiad gwaith, gyda 800 wedi symud mlaen i ganfod gwaith. Or chwith ir dde: Emma Morris - CNC, Jenny Crouch CNC, Tim Jones CNC, Sylvain Jacques Esgyn, Debbie Barker Mentor Esgyn