Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathlu Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd yn lleol

Published: 16/11/2016

Cynhaliodd Rhwydwaith Entrepreneuriaeth Busnes Sir y Fflint (RhEB) ddigwyddiad yn ystod Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd, rhwng 14 a 20 Tachwedd. Roedd y digwyddiad a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Glyndwr, ac a gafodd ei drefnu gan Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint, yn cynnwys siaradwyr o lywodraeth leol a chenedlaethol a’r Brifysgol, yn ogystal ag entrepreneuriaid lleol. Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd yw dathliad mwyaf y byd o arloeswyr a chrewyr gwaith. Yn ystod un wythnos bob mis Tachwedd, mae miloedd o ddigwyddiadau mewn 160 o wledydd yn ysbrydoli miliynau o bobl i gymryd rhan mewn gweithgaredd entrepreneuraidd tran eu cysylltu i gydweithwyr posibl, mentoriaid a hyd yn oed buddsoddwyr. Caiff y Rhwydwaith Entrepreneuriaeth Busnes, a sefydlwyd yn 2012 gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, ei gadeirio gan ddyn busnes o Sir y Fflint, Syr Askar Sheibani, Prif Weithredwr cwmni trwsio telathrebu Comtek Network Systems UK syn seiliedig ar Lannau Dyfrdwy. Wrth agor y digwyddiad, dywedodd Mr Sheibani: “Mae ein rhwydwaith hyd yma wedi helpu dros 150 o unigolion talentog i wireddu’u huchelgais mewn busnes. Mae’r busnesau sydd wedi’u creu gan yr unigolion hyn yn dal i gael effaith bositif ar gymunedau lleol, diwydiant ac economi Cymru. “I gyfraniad hael y gymuned fusnes leol a chefnogaeth hanfodol Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir y Fflint y mae’r diolch am lwyddiant aruthrol y fenter hon. Mae rhaglen fentora unigryw BEN wedi ennyn sylw a chlod o bob rhan o’r wlad a’n hamcan nawr yw rhyddhau’r model arloesol hwn ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig. “Rydyn ni’n gwbl hyderus y gwnaiff digwyddiad heddiw roi hwb i fomentwm ein hymgyrch, gan gynyddu’i heffaith wrth roi grym i entrepreneuriaid dirifedi yng Nghymru a thu hwnt.” Meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: “Mae entrepreneuriaid yn bwysig iawn i economi Cymru ac mae ganddynt y potensial i gynyddu lefelau gwaith a ffyniant yn sylweddol. “Rwy’n benderfynol y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i annog, cefnogi a datblygu gweithgarwch entrepreneuraidd ledled Cymru, ac mae hyn yn cynnwys ysbrydoli y genhedlaeth nesaf o ddynion a merched busnes newydd i wireddu eu breuddwydion ym myd busnes. “Nid oes amheuaeth y gall dechrau busnes fod yn gam enfawr sy’n codi ofn, felly mae mentrau fel BEN a’n gwasanaeth Busnes Cymru ar ei newydd wedd, wedi gwariant o £86 miliwn, yn amhrisiadwy wrth ddarparu’r sicrwydd hwnnw y mae mawr ei angen, a help llaw i’n entrepreneuriaid newydd. “Mae ymweliad heddiw yn dangos i bawb, os oes gennych yr awydd, a’r syniad, bod cymorth ar gael i helpu ichi droi’r syniad hwnnw yn llwyddiant gwirioneddol. Fel Llywodraeth, rydym yn canolbwyntio ar hybu mwy o fentrau arloesol ac mae angen inni barhau i gefnogi entrepreneuriaid mwy uchelgeisiol, arloesol a phenderfynol yng Nghymru i lwyddo.” Bu Bethan Williams o ABC Amser Babi Cymraeg, sef “graddedig” diweddar o Glwb Mentergarwch Sir y Fflint, syn cael ei redeg gan Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint, yn siarad yn y digwyddiad hefyd. Meddai Bethan, a enillodd grant mentergarwch lleol yn ddiweddar: “Mae ABC yn cynnig cymorth a chefnogaeth i fagu plant yn ddwyieithog drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Rydym yn cynnig ystod eang o weithgareddau gan gynnwys tylino babanod, yoga i fabanod, sblasio ac odli ac amser stori ac odli. Maer cymorth y mae Clwb Mentergarwch wedi ei ddarparu wedi bod yn eithriadol, ni allwn fod wedi gwneud hyn heb eu cymorth a’u harweiniad a byddwn yn argymell i unrhyw un syn ystyried sefydlu eu busnes eu hun i geisio cael eu cymorth. Dydw i heb edrych yn ôl ers sefydlur busnes, ac mae’r busnes yn ffynnu.” I gloi’r digwyddiad, dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton: “Rwyn falch iawn o fod yma heddiw. Daw llwyddiant y rhwydwaith hwn oherwydd entrepreneuriaid, y llywodraeth, partneriaid academaidd a grwpiau ieuenctid a chymuned yn cydweithio i sicrhau fod pethau’n digwydd. Un llwyddiant gwirioneddol yw Clwb Mentergarwch Sir y Fflint – mae’r cyfleoedd a chymorth mentora sy’n cael eu cynnig yn ffantastig - ble arall fyddech chi’n dod o hyd i arweinwyr busnes sy’n rhoi anogaeth i bobl leol? Fel Cyngor, rydym yn gwybod pa mor bwysig yw hi i ddarparur gefnogaeth honno i entrepreneuriaid newydd a fydd yn eu tro o fudd mawr i economi Sir y Fflint.” Ymhlith y sefydliadau syn cefnogir digwyddiad y mae Cymunedau yn Gyntaf, Canolfan Byd Gwaith, Cyngor Sir y Fflint, Gyrfa Cymru, Coleg Glannau Dyfrdwy, Prifysgol Glyndwr, a Chyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint