Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cael Gwared â Thrawsffobia
  		Published: 18/11/2016
Bydd fflag yn cael ei chodi y tu allan i Neuadd y Sir heddiw (18 Tachwedd) i 
gynrychioli Diwrnod y Cofio Trawsrywiol er cof am yr holl unigolion trawsrywiol 
sydd wedi marw o drais trawsffobig. 
Cychwynnwyd Diwrnod y Cofio Trawsrywiol, sy’n cael ei gynnal ar 20 Tachwedd pob 
blwyddyn, ym 1999, pan ddaeth yn amlwg bod niferoedd benodol fawr o bobl 
Drawsrywiol yn cael eu llofruddio. 
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cymryd rhan yn y diwrnod hwn i ddangos ein 
hymrwymiad i hybu cydraddoldeb a chael gwared â gwahaniaethu a throseddau 
casineb.
Er bod yna ddeddfwriaeth ar gydraddoldeb i amddiffyn pobl Drawsrywiol, mae 
trawsffobian parhaun broblem fawr mewn cymdeithas. 
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol 
Cyngor Sir y Fflint:
 “Mae pobl Drawsrywiol yn parhau i gael eu camddeall i raddau helaeth, felly, 
er bod y fflag yn un ffordd o gofior rhai sydd wedi marw, mae hefyd yn gyfle i 
godi ymwybyddiaeth ac i atgoffa pobl o wahaniaethu, rhagfarn a pherygl mae pobl 
Drawsrywiol yn eu wynebu pob dydd. Mae hefyd, yn amserol iawn, yn atgoffa pobl 
o wahaniaethu, aflonyddu a throseddau casineb yn erbyn grwpiau eraill ein 
cymdeithas, fel pobl anabl a phobl sy’n lesbiaid, hoyw neu’n ddeurywiol.”
I roi gwybod am Drosedd Casineb, ffoniwch Heddlu Gogledd Cymru ar 101 (999 os 
ydyw’n argyfwng) neu linell Gymorth 24/7 Am Ddim Cymorth i Ddioddefwyr ar 0300 
30 31 982, neu rhowch wybod ar-lein ar: www.reporthate.victimsupport.org.uk.