Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adeiladu cartrefi newydd, a buddsoddi yn ein cymuned

Published: 17/11/2016

Mae ymrwymiad Cyngor Sir y Fflint i adeiladu tai cyngor newydd a thai fforddiadwy o dan ei Raglen Tai Strategol ac Adfywio uchelgeisiol (SHARP) yn parhau i fod o fudd ir gymuned leol. Yn ogystal â diwallu anghenion tai lleol, maer datblygiadau yn hen Ysgol Custom House Lane, Cei Connah a The Walks, y Fflint hyd yma wedi gweld buddsoddiad sylweddol yn y gymuned leol. Mae Wates Residential, partner datblygu Cyngor Sir y Fflint, wedi cofnodi’r buddsoddiad hwn ers i’r datblygiad cyntaf ddechrau ar safle Custom House Lane, Cei Connah ym mis Mai 2016. Mae dros 194 o bobl leol wedi elwa o fentrau cyflogaeth a hyfforddiant o’r ddau ddatblygiad yng Nghei Connah a’r Fflint ac mae busnesau lleol wedi elwan fawr oherwydd ymrwymiad SHARP i gaffael nwyddau, gwasanaethau a masnach lleol lle bynnag y bon bosibl. Mae Wates Residential hefyd wedi bod ynghlwm â nifer o ddigwyddiadau er budd elusennau lleol ac achosion cymunedol ac yn aml mae hyn wedi bod ar sail wirfoddol gan staff Wates Residential. Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge: “Maen wirioneddol braf gweld yr effaith gadarnhaol y mae adeiladu tai cyngor newydd a thai fforddiadwy newydd yn Sir y Fflint yn ei chael ar y gymuned leol. Rwyf wrth fy modd, mewn cyfnod mor fyr yn y rhaglen pum mlynedd bod Wates Residential wedi profi eu hymrwymiad tuag at fuddsoddi yn y gymuned leol yn Sir y Fflint.” Dywedodd Lee Sale, Cyfarwyddwr Busnes, Wates Residential: Gydan gwaith datblygu ar y safle yn symud ymlaen ar gyflymder, maen amser gwych i ganolbwyntio ar yr effaith gadarnhaol y mae buddsoddiad tai sylweddol Cyngor Sir y Fflint yn ei chael ar y gymuned leol. Mae creu cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth ar gyfer ein cymdogion ar draws Sir y Fflint bob amser wedi bod yn flaenoriaeth sylweddol i Wates Residential ac maen rhoi balchder i mi fod eisoes wedi gweld cymaint o bobl leol yn elwa ar ein gwaith.”