Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Canol Tref Treffynnon ar fin cael ei ailwampio
  		Published: 19/06/2014
Fe fydd tref Treffynnon yn cael ei thrawsnewid dros y misoedd nesaf wrth i 
waith gychwyn ar adfywio canol y dref.
Yn dilyn cyfnod o ymgynghori gyda Chyngor Tref Treffynnon, Partneriaeth Tref 
Treffynnon a’r cyhoedd, bydd y cyfnod cyntaf o waith adeiladu yn cychwyn fis 
Gorffennaf a bydd yn para am tua thri mis. 
Mae gwahoddiad i breswylwyr a pherchnogion busnes lleol gwrdd â staff o Gyngor 
Sir y Fflint a chontractwr y gwaith (GH James), er mwyn iddynt weld y 
cynlluniau. Bydd staff ar gael yn Sir y Fflint yn Cysylltu, Stryd Fawr 
Treffynnon, ddydd Mawrth 1 Gorffennaf rhwng 3.30pm a 6.30pm, er mwyn trafod 
unrhyw bryderon sydd ganddynt cyn i’r gwaith gychwyn.   
Mae’r cynlluniau’n cynnwys: gwelliannau i brif fynedfeydd i ganol y dref gan 
greu mynedfa o nodwedd ar Stryd Chwitffordd; mynedfa ddeniadol yn seiliedig ar 
risiau sy’n arwain i’r dref o Stryd y Ffynnon; tacluso’r Stryd Fawr yn 
gyffredinol a gosod plinth nodedig ar gyfer y cerflun newydd yng nghanol y 
dref. 
Yn rhan o fenter twristiaeth newydd gan y Cyngor Sir er mwyn annog trefnwyr 
teithiau i grwpiau i gynnwys Sir y Fflint fel cyrchfan ar gyfer grwpiau sy’n 
teithio, bydd parth penodol i fysiau gael gollwng teithwyr yn cael ei ddatblygu 
ar waelod Tower Gardens.    
Dyma oedd gan y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu 
Economaidd i’w ddweud: “Bydd y gwelliannau yma i adeiladwaith Canol Tref 
Treffynnon yn cyd-fynd â gweithgareddau eraill sy’n digwydd, gan roi balchder i 
breswylwyr lleol ac annog rhagor o ymwelwyr i’r ardal.” 
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi derbyn cyllid ar gyfer strydlun a gwelliannau 
mynediad gan Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop a Chynllun Datblygu Gwledig ar 
gyfer Cymru 2007-2013, sydd yn eu tro yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru 
a’r Gronfa Ewropeaidd dros Ddatblygu Gwledig. 
Capsiynau llun: Canol Tref Treffynnon cyn yr ailwampiad.