Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cefnogi’r Ymgyrch Rhuban Gwyn
  		Published: 25/11/2016
Mae sefydliadau ledled Sir y Fflint wedi dod at ei gilydd i gynnal  igwyddiadau 
drwy gydol yr wythnos hon i ddangos eu cefnogaeth i Ymgyrch Rhyngwladol y 
Rhuban Gwyn.
Mae aelodau Cyngor Sir y Fflint, swyddogion, trigolion lleol, asiantaethau 
partner, gweithwyr adeiladu ac aelodau gwasanaeth Tân ac Achub ymhlith llawer 
sydd wedi bod yn gwisgo rhubanau gwyn i hyrwyddo ymwybyddiaeth or ymgyrch, 
syn anelu at ddileu pob math o drais yn erbyn menywod.
Ymunodd aelodau Cyngor Sir y Fflint ag asiantaethau partner gan gynnwys Uned 
Diogelwch Cam-drin Domestig), BAWSO (syn darparu gwasanaethau arbenigol i bobl 
o gefndiroedd Du a Lleiafrifoedd Ethnig), Age Concern, Wales & West Housing 
Association, Cymorth CAHA i Fenywod, Hafan Cymru, Heddlu Gogledd Cymru ac 
Iechyd  yng Ngorsaf Dân Queensferry heddiw, dydd Gwener 25 Tachwedd i nodi 
Diwrnod Rhuban Gwyn a Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn Menywod.
Roedd digwyddiad yn gynharach yn yr wythnos a gynhaliwyd yng Ngholeg Glannau 
Dyfrdwy yn anelu at hyrwyddor ymgyrch ymysg pobl ifanc a chodi ymwybyddiaeth o 
gam-drin domestig a gwasanaethau cefnogi trais rhywiol sydd ar gael.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, yr Aelod Cabinet dros Warchod y Cyhoedd: 
“Fel cyngor rydym yn llwyr gefnogi’r achos hwn. Mae siarad â phobl ifanc ac 
esbonior materion yn un or ffyrdd o gael y neges allan yno. Mae gwisgo rhuban 
gwyn yn ffordd wych arall i ddangos cefnogaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, a 
Llysgennad yr Ymgyrch Rhuban Gwyn ar gyfer Sir y Fflint:
“Yn 2014, daeth Sir y Fflint yr Awdurdod Lleol cyntaf yng Ngogledd Cymru i 
dderbyn Gwobr Tref y Rhuban Gwyn i Gynghorau.  Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad 
i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, a hefyd ein cefnogaeth i 
ymgyrch Rhyngwladol y Rhuban Gwyn.  Mae trais yn erbyn menywod yn gwbl 
annerbyniol a byddwn yn gwneud popeth y gallwn i godi ymwybyddiaeth am y mater.”
Dywedodd Jackie Goundrey, Cydlynydd Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Cyngor 
Sir y Fflint:
“Maer Cenhedloedd Unedig yn cydnabod 25 Tachwedd yn swyddogol fel Diwrnod 
Rhyngwladol ar Ddiddymu Trais yn erbyn Menywod.  Maer Rhuban Gwyn yn symbol o 
obaith am fyd lle gall merched a genethod fywn rhydd 
o ofni trais. Mae gwisgor rhuban yn ymwneud â herio derbynioldeb trais - drwy 
gael dynion i gymryd rhan, gan helpu menywod i dorrir distawrwydd, ac annog 
pawb i ddod at ei gilydd i adeiladu byd gwell i bawb.”
Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr dros Tai Wales & West: Rydym yn llwyr 
gefnogi’r ymgyrch Rhuban Gwyn i helpu i roi terfyn ar drais yn y cartref. Drwy 
gydweithio gyda sefydliadau eraill gallwn gael effaith ar godi
ymwybyddiaeth or hyn sy’n mynd ymlaen y tu ôl i ddrysau caeedig.