Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Tybaco anghyfreithlon wedi ei feddiannu mewn cyrch aml asiantaeth

Published: 24/11/2016

Mae ymgyrch ar y cyd rhwng Safonau Masnach Sir y Fflint, Wardeiniaid Cymdogaeth a Heddlur Gogledd wedi arwain at feddiannu tybaco anghyfreithlon. Meddiannwyd tua 8,000 o sigaréts yn ogystal â thybaco sy’n cael ei rowlio gyda llaw o siopau yn y Fflint a Threffynnon. Mae ymchwiliadau i ffynhonnell y sigaréts yn parhau. Cefnogwyd yr ymgyrch gan gwn arogli tybaco arbenigol a ddaeth o hyd ir tybaco oedd wedi ei guddio tu ôl i wal ffug ac mewn nenfwd ffug uwchben toiled. Mae masnach tybaco anghyfreithlon weithiau’n cael ei weld fel trosedd heb ddioddefwr, ond mae hynny ymhell o fod yn wir. Yn aml mae’r rhai sy’n gwerthu tybaco anghyfreithlon yn targedu plant a phobl ifanc er mwyn eu gwneud yn gaeth i ysmygu, nid ydynt yn poeni i bwy maent yn gwerthu cyn belled âu bod yn gwneud arian. Mae gan y fasnach tybaco anghyfreithlon gysylltiadau cryf gyda gangiau trosedd a throseddol gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â delio cyffuriau, masnachu pobl a hyd yn oed yn helpu i ariannu terfysgaeth. Mae gwerthu tybaco anghyfreithlon hefyd yn dwyn oddi wrth y trethdalwr. Mae hwn yn arian a allai gael ei wario ar wasanaethau cyhoeddus pwysig fel ysgolion, ysbytai a gofal i’r henoed. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Gwarchod y Cyhoedd: “Mae gwerthu tybaco rhad anghyfreithlon yn ei gwneud yn haws i bobl ifanc ddechrau ysmygu a dod yn gaeth ac yn eu gwneud yn fwy anodd i ysmygwyr sydd am roi’r gorau iddi i dorri’r arferiad. Yn bell o fod yn drosedd heb ddioddefwr, maer fasnach mewn tybaco anghyfreithlon yn arwain at ganlyniadau difrifol i drosedd ac iechyd yn y gymuned ac yn achosi niwed economaidd i fusnesau lleol cyfreithlon.” Dywedodd y Rhingyll Mike Wilson o Dîm Cymdogaeth Ddiogel Gogledd Sir y Fflint: “Mae hwn yn ganlyniad gwych ir asiantaethau hynny oedd yn rhan o hyn. Mae’n dangos drwy gydweithio ein bod yn gallu cael effaith gwirioneddol mewn ymdrin â materion o fewn y gymuned. Fe fyddwn i’n annog unrhyw un a all gynnig gwybodaeth am y math yma o drosedd i gysylltu â Heddlu’r Gogledd drwy sgwrs fyw ar y we http://www.north-wales.police.uk/contact/live-chat-support?lang=cy-gb, drwy ffonio 101 neu drwy Crimestoppers ar 0800 555 111.” Dywedodd Richard Powell, Arweinydd Tîm Sir y Fflint ar gyfer Ymchwiliadau Safonau Masnach a Diogelwch Cymunedol: “Mae’r canlyniad gwych hwn yn dangos cydweithio partneriaeth rhagorol rhwng asiantaethau gorfodi wrth i ni barhau â’n llwyddiant yn lleihau’r tybaco anghyfreithlon sydd ar gael. Mae llai o bobl yn prynu tybaco anghyfreithlon a llai o bobl bellach yn barod iw anwybyddu. Gall pobl wneud gwahaniaeth gwirioneddol i helpu i gadw mwy o dybaco anghyfreithlon oddi ar y strydoedd drwy roi gwybod i’r awdurdodau amdano. Mae angen i ni barhau i roi pwysau ar y rhai sy’n parhau i’w werthu.” Gall unrhyw un sydd am roi gwybod i Safonau Masnach am dybaco anghyfreithlon sy’n cael ei werthu wneud hynny drwy ffonio 03454 040506. Sigaréts neu dybaco syn cael ei rowlio â llaw sydd wedi eu smyglo neu’n ffug yw cynnyrch tybaco anghyfreithlon ac nid ydynt yn ddarostyngedig i unrhyw reolaethau ynglyn â’u cyfansoddiad. Or chwith ir dde: PCSO Andy Knowles, PCSO Helen Whittingham a Claire Edge Safonau Masnach Sir y Fflint