Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Stori anhygoel caffi Dementia 
  		Published: 01/12/2016
Rhoddodd caffi dementia yn Sealand sylw haeddiannol i brosiect gwerth chweil a 
ariennir gan Cymunedau’n Gyntaf yn eu cyfarfod misol yn ddiweddar.
Mae’r prosiect rhyng-genhedlaeth sy’n cael ei redeg gan RMD Memory Matters yn 
cyflwyno “Y Stori Fythol’ (“Never Ending Story”) seiliedig ar ddychymyg ac 
atgofion gan weithio gyda phobl sy’n byw gyda dementia, eu gofalwyr a phlant 
ysgol. 
Meddai Donna Redgrave o RMD- Memory Matters, sydd wedi bod yn gweithio gyda 
disgyblion o ysgol Uwchradd y Fflint ac Ysgol Gynradd Sealand:   
“Mae RMD – Memory Matters yn credu y gall y celfyddydau chwarae rhan 
arwyddocaol o ran helpu pawb sydd wedi’u heffeithio gan ddementia i fyw yn 
dda.  Gall y celfyddydau hefyd fod yn fodd o wella ymwybyddiaeth a 
dealltwriaeth pobl o’r cyflwr a dod â chymunedau at ei gilydd.  Rydym yn cynnig 
amrywiaeth o wasanaethau creadigol, hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer pobl 
sy’n byw efo dementia, eu gofalwyr a’r gymuned ehangach.
“Mae disgyblion, athrawon a staff cefnogi’r ysgolion yn cwblhau sesiwn 
‘Cyfeillion Dementia’ sy’n eu cyflwyno nhw i heriau byw efo dementia.   Yn 
dilyn hynny bydd grwp  o fyfyrwyr yn gweithio gyda mi ar sesiwn ‘Stori Fythol’.
Yn y cyfarfod diweddar yng Nghaffi Dementia Sealand daeth disgyblion Ysgol 
Gynradd Sealand draw i rannu sesiwn Stori Fythol gyda phobl sy’n byw gyda 
dementia a’u gofalwyr.
Bydd sesiwn debyg yn cael ei chynnal yng Nghaffi Cof y Fflint gyda disgyblion 
Ysgol Uwchradd y Fflint ar 5 Rhagfyr.
Mae gan Caffi Dementia Sealand dîm o wirfoddolwyr ymroddedig ond caiff y caffi 
ei redeg yn bennaf gan drigolion lleol a mamau ifanc.  Meddai Hayley Wilson, 
Cadeirydd y Pwyllgor:
“Mae’r caffi wedi bod ar agor ers tua phum mis ac mae ‘na ymdeimlad o gymuned 
ac ysbryd tîm go iawn yno.  Rydym wrth ein bodd fod ein gwaith caled yn talu ar 
ei ganfed drwy lwyddiant cynyddol ein caffi.  Hoffwn annog mwy o wirfoddolwyr a 
phobl â dementia a’u gofalwyr i ddod draw i’n caffi a darganfod lle mor wych 
ydi o, a hefyd pa gefnogaeth sydd ar gael.  Mae’r caffi ar agor unwaith y mis, 
bob pedwerydd dydd Llun, rhwng 1-3pm yng Nghanolfan Gymunedol St Andrew yn 
Garden City.”
Meddai’r Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol 
Cyngor Sir y Fflint:
Dw’ i wrth fy modd fod y caffi’n  gymaint o lwyddiant ac mae’n wych cael 
mewnbwn Donna sydd wedi bod yn allweddol o ran lledaenu’r gair i gynulleidfa 
ehangach a chynnwys sawl cenhedlaeth yn y prosiect rhagorol hwn.  Heb arian 
Cymunedau’n Gyntaf efallai na fyddai hyn wedi bod yn bosibl.”
Mae Caffis Dementia’n llefydd diogel, cyfforddus a chefnogol i bobl â dementia 
a’u gofalwyr gymdeithasu.  Nid yn unig hynny, yn ddiweddar, pan oedd yng 
Nghaffi Dementia Sealand efo’i wraig Gill, fe wnaeth Richard Benyon gyfarfod 
hen gyfaill nad oedd wedi ei weld ers 66 o flynyddoedd.
Meddai Gill: “Pryd bynnag yr oedd Richard yn siarad am yr hen ddyddiau, roedd o 
bob amser yn sôn am ffrind o’i blentyndod, Peter Sumner, ac roedd o wirioneddol 
isio ei gyfarfod o eto.   Roedd Richard yn arfer mynd drosodd i Feithrinfa Bee 
ar y fferi oedd yn cysylltu Cymru a Lloegr, cyn i’r bont gerdded gael ei 
hadeiladu, ac roedd Peter yn byw yn Fferm Thornleigh ac roedd y ddau’n mynd i’r 
ysgol efo’i gilydd tan oedden nhw’n 11 oed.  Roeddwn i wedi fy syfrdanu 
cyfarfod cwpl arall mewn sesiwn Caffi Dementia diweddar a ddywedodd eu bod 
nhw’n nabod rhywun o’r enw Peter Sumner, felly mi nes i gysylltu ag o, fo oedd 
y person cywir ac mi wnes i ei wahodd o i ddod yma heddiw, a dyma nhw.  Dwi’n 
teimlo’n emosiynol iawn fod Richard wedi gallu cyfarfod hen gyfaill a chymaint 
o amser wedi mynd heibio ers iddyn nhw weld ei gilydd, ac mae’r diolch i gyd 
i’r grwp yma – dwi’n ddiolchgar dros ben iddyn nhw i gyd.”
Yn ogystal â chynnig amrywiaeth o weithgareddau hwyliog a difyr mae’r Caffi 
Dementia yn rhoi cyfle i ofalwyr a phobl â dementia gael gwybodaeth a chyngor 
ac i siarad efo pobl eraill sydd â phroblemau tebyg.
I gael rhagor o wybodaeth am y caffi, cysylltwch â  Hayley Wilson: 
hayleycj6@gmail.com neu ffoniwch Luke Pickering-Jones yng Nghyngor Sir y Fflint 
ar 01352 702655.
Richard Benyon (ar y dde) a Peter Sumner -  gyda’i gilydd unwaith eto ar ôl 66 
o flynyddoedd!