Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gwobrau Gwasanaeth Hir Gofalwyr Maeth 2016
  		Published: 05/12/2016
Mae deunaw o ofalwyr math wedi’u hanrhydeddu gan Gyngor Sir y Fflint am 
gyrraedd cerrig milltir mewn maethu. 
Cyflwynwyd y gwobrau Mewn Seremoni ddiweddar yng Ngwesty Northop Hall gan Craig 
Macleod, Uwch Reolwr Gwasanaethau Cymdeithasol, i unigolion sydd wedi bod yn 
maethu am gyfnodau’n amrywio o 5 i 30 mlynedd.
Cyflwynwyd gwobr 5 mlynedd i ddeuddeg o ofalwyr maeth,  10 mlynedd i dri,  15 
mlynedd i ddau a chyflwynwyd gwobr  30 mlynedd i Phyllis a Tom Hanson.
Mae Phyllis a Tom wedi maethu dros 30 o blant ers 1986.  Daeth llawer o’r plant 
y gofalodd y pâr amdanynt dros y blynyddoedd atynt pan oedden nhw’n ifanc iawn 
ac arhoson drwy gydol eu plentyndod a’u harddegau gan deimlo’n wirioneddol ran 
o’r teulu.  Mae nifer fawr o’r bobl ifanc yn dal i ymweld â Phyllis a Tom ac 
erbyn hyn yn mynd â’u plant eu hunain efo nhw.
Diolchodd Craig Macleod i Phyllis a Tom Hanson ac i’r holl ofalwyr maeth ar ran 
Cyngor Sir y Fflint a’r plant maen nhw’n gofalu amdanynt:
“Pan fydd Phyllis a Tom yn derbyn plentyn maen nhw’n gwneud hynny gyda 
brwdfrydedd a breichiau agored. Bydd pob plentyn yn dod yn rhan o’r teulu ac yn 
cael eu cynnwys ym mhob agwedd ar fywyd teuluol – o ddigwyddiadau bob dydd i 
wyliau. Bydd y berthynas maen nhw wedi’i meithrin gyda rhai plant o’r bobl 
ifanc maen nhw wedi gofalu amdanynt yn para oes.  Derbynnir plant am yr hyn 
ydyn nhw a bydd Phyllis a Tom yn eu cefnogi ym mha bynnag ffordd sy’n 
angenrheidiol er mwyn eu galluogi nhw i wireddu eu potensial, beth bynnag yw 
hynny.”
Meddai Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint, Cynghorydd 
Christine Jones:
“Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bob un o’n gofalwyr maeth – ar lefel bersonol a 
hefyd ar ran Cyngor Sir y Fflint.  Mae Gofalwyr Maeth da yn gwneud gwahaniaeth 
i ddyfodol plant ac i’w cyfleoedd mewn bywyd.  Maen nhw’n agor eu cartrefi ac 
yn darparu amgylchedd teuluol diogel a gofalgar lle gall plant ddatblygu a 
ffynnu a gwireddu eu potensial.”
Am ragor o wybodaeth ynglyn â bod yn ofalwr maeth, cysylltwch æ Gwasanaethau 
Cymdeithasol Sir y Fflint ar 01352 701965 neu ewch i  
www.flintshirefostering.org.uk.