Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Rhaglen Gyfalaf

Published: 08/12/2016

Ddydd Mawrth, 13 Rhagfyr, bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint ystyried a chymeradwyo adroddiad ar Raglen Gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2017/18 - 2019/20. Yn bennaf, mae’r Rhaglen Gyfalaf yn cefnogi asedau seilwaith ac adeiladau (e.e. priffyrdd ac ysgolion) ac yn buddsoddi mewn modelau gwasanaeth newydd neu rai sy’n cael eu hail-fabwysiadu (e.e. hamdden a gofal cymdeithasol). Maer buddsoddiadau cyfalaf arfaethedig yn cyd-fynd â chynlluniau busnes y gwasanaethau ar Cynllun Gwella. Dyma rai or buddsoddiadau allweddol: · Mae Ysgol Uwchradd Castell Alun ac Ysgol Gynradd Glan Aber wedi eu nodi fel yr ysgolion sydd âr anghenion mwyaf, ac angen estyn ac ailfodelu’r adeiladau presennol. Mae cyfanswm o £4.6 miliwn wedi ei ddyrannu ar gyfer y gwaith yng Nghastell Alun a bron i filiwn o bunnau ar gyfer Glan Aber. o Bydd Ysgol Uwchradd Castell Alun yn cael ei hestyn a bydd uned Celf a Dylunio Technoleg newydd dri llawr yn cael ei chodi a bydd ardaloedd eraill yn cael eu hailfodelu. Bydd y gwaith yn dechrau yn ystod blwyddyn ariannol 2018/19. o Bydd Ysgol Gynradd Glan Aber, Bagillt yn gweld y neuadd yn cael ei gweddnewid i ddarparu dau ofod dysgu addas a bydd neuadd newydd yn cael ei chodi, sy’n briodol ar gyfer nifer y disgyblion, ynghyd ag estyniadau llai i dair ystafell ddosbarth. Bydd y gwaith yn dechrau yn ystod blwyddyn ariannol 2017/18. · Mae £4 miliwn wedi ei neilltuo ar gyfer codi cyfleuster gwasanaethau dydd anableddau dysgu newydd sbon yn lle Canolfan Glanrafon yn Queensferry. Mae hyn yn rhan o ymrwymiad y Cyngor i ddarparu gofal dydd ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth. · Grantiau Cyfleusterau ir Anabl – mae dyraniadau blynyddol o bron i £1.5 miliwn wedi eu nodi ar gyfer addasiadau, gan alluogi trigolion i barhau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. · Bydd cynnydd o £100,000 o 2017/18 ymlaen er mwyn cyflwyno rhaglen uwchraddio toiledau mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. · Llefydd chwarae a chaeau chwarae synthetig – mae dyraniad ychwanegol o bron i £900,000 dros dair blynedd wedi ei nodi i dalu am offer chwarae newydd, uwchraddio llefydd chwarae a gosod wynebau synthetig newydd ar gaeau chwarae sydd mewn cyflwr gwael. · Byddwn hefyd yn gwella canolfannau hamdden a llyfrgelloedd, a fydd hefyd yn gwella’r gwasanaethau a ddarperir. Cyfanswm y buddsoddiad ar gyfer y gwelliannau hyn yw £454,000. Dywedodd y Cyng. Aaron Shotton, Aelod Cabinet Cyllid: “Er gwaethaf yr her ariannol sylweddol rydym ni’n ei hwynebu, rydym ni wedi llunio rhaglen gyfalaf glir ac uchelgeisiol ar gyfer y pedair blynedd nesaf ar gyfer seilwaith ac ysgolion. Rydw i’n falch iawn ein bod ni’n gallu gwneud y gwelliannau hyn yn ein canolfannau hamdden a’n llyfrgelloedd, yn ogystal â buddsoddi yn ein hysgolion. Mae hyn yn dangos bod Sir y Fflint yn gyngor arloesol sy’n meddwl am y dyfodol ac yn buddsoddi yn lles y sir.”