Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwybr beicio Talacre i Ffynnongroyw

Published: 20/06/2014

Mae gwaith ar fin dechrau i greu llwybr beicio newydd rhwng Ffynnongroyw a Thalacre fel rhan or prosiect parhaus Cysylltu Cymunedau Sir y Fflint. Bydd y llwybr beicio arfaethedig yn dilyn llinell presennol Llwybr Arfordir Cymru Gyfan rhwng yr A548 yn Nhan Lan a’r gyffordd â Ffordd yr Orsaf yn Nhalacre, gydag adran yn mynd o amgylch Glofa y Parlwr Du. Bydd y rhan hon o Lwybr yr Arfordir ar gau o 24 Mehefin tan ddiwedd mis Awst tra bod y gwaith yn cael ei wneud. Pan fydd wedi’i gwblhau, bydd y llwybr beicio yn darparu cyswllt beicio di-dor o ogledd Mostyn i Ffynnongroyw ac ymlaen i Dalacre cyn parhau ar hyd Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol 5 i Brestatyn. Yn ystod y gwaith adeiladu, bydd y guddfan adar yng Nglofa’r Parlwr Du hefyd ar gau a gall yr Awdurdod Priffyrdd ddefnyddio ei bwerau angenrheidiol i fynd i dir cyfagos i ymgymryd â pheth or gwaith. Mae’r prosiect Cysylltu Cymunedau Sir y Fflint wedi’i weithredu gan y Cyngor ers mis Mawrth 2011 gyda thri chynllun eisoes wedi’u cwblhau: Gosod Croesfan Pegasus yng Ngronant, cynllun gwella llwybrau troed cyhoeddus yn Mostyn a llwybr beicio ar y ffordd/oddi ar y ffordd rhwng yr Wyddgrug/Sychdyn a Llaneurgain/Fflint. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd: “Maer prosiect Cysylltu Cymunedau Sir y Fflint yn ceisio cyflawni amcanion cynaladwyedd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd, yn enwedig o ran trafnidiaeth a newid yn yr hinsawdd, cydlyniad cymdeithasol a cysylltedd a thrwy wella, datblygu a hyrwyddo cyfres o lwybrau troed, llwybrau beicio a llwybrau ceffylau yn Sir y Fflint wledig. Maer prosiect wedi cael tua £715,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Mae arian arall wedi dod i law drwyr Gronfa Trafnidiaeth Rhanbarthol, y Gronfa Trafnidiaeth Lleol a Chyngor Sir y Fflint ac mae werth tua £500,000.