Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg

Published: 08/12/2016

Ddydd Mawrth, 13 Rhagfyr, bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Sir y Fflint. Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio strategaeth genedlaethol ddrafft i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae Cyngor Sir y Fflint yn gefnogol iawn i’r strategaeth hon ac felly’n gofyn i’r Cabinet gymeradwyo cynllun diwygiedig y Gymraeg Mewn Addysg ar gyfer 2017-2020 ac atgyfnerthu ei ymrwymiad cryf ir Gymraeg. Mae cynllun Sir y Fflint yn ganlyniad i bartneriaeth gynhyrchiol rhwng swyddogion yr awdurdod lleol, cynrychiolwyr o ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg y sir a sefydliadau allweddol eraill sydd â diddordeb mewn hyrwyddor Gymraeg ac addysg cyfrwng Cymraeg. Mae’r unigolion hyn yn dod ynghyd mewn fforwm o’r enw Fforwm Strategol Cymraeg mewn Addysg. Dwedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: “Mae gan Sir y Fflint ymrwymiad cryf iawn ir Gymraeg an gweledigaeth ni yw cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg o fewn ein sir. Byddwn yn cynorthwyo pobl o bob oed i wella eu sgiliau Cymraeg a rhoi hyder iddyn nhw ddefnyddior iaith yn eu bywydau pob dydd - yn y gwaith, yn y cartref, yn yr ysgol ac yn y gymuned. “Mae ein fforwm yn bartneriaeth gref gyda nodau clir a’r aelodau cywir, gan gynnwys swyddogion Menter Iaith Sir y Fflint, Urdd Gobaith Cymru, Coleg Cambria a chynrychiolaeth gan rieni a llywodraethwyr. Fel cadeirydd y pwyllgor, rydw i’n hyderus y bydd ein cynllun yn llwyddo.” Mae’n rhaid cyflwyno Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg Sir y Fflint 2017-2020 i Lywodraeth Cymru erbyn 20 Rhagfyr. Unwaith y derbynnir y gymeradwyaeth derfynol, bydd y cynllun yn cael ei roi ar waith ar 1 Ebrill 2017.