Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Prynu eiddo Hawl i Brynu yn ôl

Published: 08/12/2016

Ddydd Iau, 15 Rhagfyr, bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter Sir y Fflint yn ystyried adroddiad ynglyn â pholisi newydd yn nodi dull y Cyngor mewn perthynas â phrynu hen dai cyngor yn ôl. Hyd yma, maer cyngor wedi dewis peidio â manteisio ar y dewis hwn i brynu unrhyw eiddo yn ôl. Fodd bynnag, maer Cyngor wedi gwneud cais i Lywodraeth Cymru i atal y cynllun Hawl i Brynu ac maen bwriadu adeiladu oddeutu 200 o dai cyngor newydd dros y pum mlynedd nesaf. Mae prynu hen dai cyngor yn ôl yn cyd-fynd âr strategaeth hon ac fe all helpu i adfywio ystadau a diwallu anghenion lleol. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Mae pawb yn gwybod fod yna brinder tai fforddiadwy ar draws y Deyrnas Unedig. Mae strategaeth Cyngor Sir y Fflint i adeiladu tai cyngor newydd, y rhai cyntaf mewn cenhedlaeth, yn cyd-fynd yn dda ân cynnig i atal y cynllun Hawl i Brynu. Cam arall i ddarparu mwy o dai fforddiadwy fyddai dod â thai cyngor a werthwyd flynyddoedd yn ôl yn ôl i’n stoc tai. Byddai hyn yn darparu mwy o dai fforddiadwy ar gyfer trigolion Sir y Fflint yn ogystal ag incwm ir Cyngor ar ffurf rhent.” Byddair sefyllfa hon ond yn codi petai’r perchennog presennol yn penderfynu gwerthu. Os ywr eiddo wedi ei werthu ar ôl 18 Ionawr 2005 ac os yw’r perchennog yn penderfynu gwerthu’r ty o fewn 10 mlynedd, mae’n rhaid i’r perchennog gynnig gwerthu’r ty i’r Cyngor yn gyntaf. Os nad yw’r Cyngor yn dymuno prynu’r ty, yna caiff y perchennog ei werthu ar y farchnad agored. Maer Cyngor hefyd yn gallu prynu unrhyw eiddo sydd ar werth ar y farchnad agored, cyhyd â’i fod yn bodloni gofynion polisi’r Cyngor. Byddai pob eiddo yn cael ei ystyried yn unigol, ond mae’r cronfeydd sydd ar gael yn y cynllun busnes yn ffactor mawr.