Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Tai Cyngor newydd

Published: 09/12/2016

Agorodd y drysau’n ddiweddar i’r datblygiad tai cyngor newydd ar gyn safle Ysgol Custom House Lane ar Ffordd yr Wyddgrug, Cei Connah gan roi i denantiaid posib ac eraill oedd â diddordeb yn y datblygiad y cyfle i cael cip o amgylch y safle. Y datblygiad hwn o 12 o dai cyngor yw’r safle cyntaf i’w gwblhau fel rhan o Raglen Tai Strategol ac Adfywio Cyngor Sir y Fflint (SHARP) a’r rhain yw’r tai cyngor cyntaf i’w hadeiladu yng Nghymru ers dros 20 mlynedd. Mae’r tai bellach wedi eu neilltuo i denantiaid ac o fewn yr wythnosau nesaf bydd yr holl dai yn cael eu trosglwyddo ir cyngor gan ei bartner datblygu strategol Wates Residential yn barod i’r tenantiaid symud i mewn. Mae Wates Residential wedi gweithio’n agos gyda’r cyngor i sicrhau fod y tai wedi eu hadeiladu i safon uchel o ran ansawdd gyda nodweddion syn fodern ac yn effeithlon o ran ynni er mwyn cadw’r costau rhedeg ar lefel y gellir ei reoli. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint; “Rwyf wrth fy modd gyda’r cynnydd gwych sydd wedi ei wneud ar y safle hwn ers i’r gwaith ddechrau ym Mai 2016. Rwy’n falch iawn i gwrdd â rhai o’r tenantiaid newydd wrth iddynt weld eu cartrefi am y tro cyntaf ac roeddwn mor falch o glywed y tenantiaid newydd yn sôn am ‘bennod newydd yn eu bywydau’ a pha mor gyffrous oeddent i fod yn symud i’r datblygiad Custom House. Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge; “Rwy’n falch iawn or datblygiad hwn a bod nifer o nodweddion wedi eu rhoi yn y cynllun er mwyn cofio adeilad yr ysgol oedd ar y safle cyn hynny ac a oedd yn ganolog ir gymuned leol. Dysgais hefyd fod un o’r tenantiaid newydd yn ddisgybl yn hen Ysgol Custom House Lane ac yn teimlo’n gyffrous iawn o gael symud i’w ty cyngor newydd. Dywedodd Lee Sale, Cyfarwyddwr Busnes, Wates Residential: “Mae sawl mis o waith caled ac ymroddiad wedi ei roi i raglen fuddsoddi tai uchelgeisiol Sir y Fflint ac mae gweld y cynlluniau’n dod yn fyw yn garreg filltir gyffrous i bawb sy’n rhan o hyn, gan gynnwys y preswylwyr a fydd yn mwynhau’r cartrefi gwych yma. “Mae cam cyntaf SHARP wedi bod yn llwyddiant mawr, yn rhannol o ganlyniad i’r cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant y mae wedi ei greu ar gyfer pobl leol. Rydym yn edrych ymlaen i barhau i weithio gyda Chyngor Sir y Fflint gan ailadrodd y llwyddiant yr ydym wedi ei gyflawni wrth i’r rhaglen ddatblygu tai barhau yn 2017.