Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Moderneiddio ysgol gam yn nes

Published: 16/12/2016

Mae contractwr wedii ddewis i ymgymryd â rhaglen foderneiddio ar gyfer Ysgol Uwchradd Cei Connah. Bydd Kier Construction o Wrecsam yn gweithio i ddisodlir bloc Dylunio a Thechnoleg ar bloc Technoleg Bwyd a Chelf presennol. Bydd y bloc tri llawr presennol yn cael ei ddisodli gan adeilad deulawr newydd a fydd yn cynnwys adran weinyddol, bloc Dylunio a Thechnoleg, Technoleg Bwyd a Chelf a Dylunio, ystafell ar gyfer darpariaeth addysgu ychwanegol, swyddfa, toiledau, lifft, grisiau ac ystafell beiriannau. Mae’r gwaith yn ffurfio rhan o raglen ysgolion yr 21ain ganrif gan Lywodraeth Cymru ac yn dilyn y gwaith a gwblhawyd yn ddiweddar yng Nghampws Dysgu Treffynnon a Choleg Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy. Bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn ystod yr haf 2017 a bydd y contractwr yn sicrhau bod cyn lleied o aflonyddwch â phosibl ir dysgwyr a’r gymuned leol, gyda dyddiad bwriedig ar gyfer cwblhau’r gwaith yn gynnar yn 2019. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Maer Cyngor wedi cytuno ar becyn ariannu gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer ei raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif gwerth £64.2 miliwn. Agorwyd dau ddatblygiad campws modern a chyffrous yn ddiweddar, un yn Nhreffynnon a’r llall yng Nglannau Dyfrdwy, fel rhan or rhaglen hon. Maer Cyngor yn parhau i ymrwymo i fuddsoddi yn nyfodol ein plant an pobl ifanc. Rydym ni hefyd yn parhau i weithio i ddarparu addysg gynaliadwy o ansawdd uchel in holl ddysgwyr.” Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir y Fflint: “Mae’n garreg filltir arall yn ymrwymiad y Cyngor i ddarparu cyfleusterau modern ar gyfer plant, pobl ifanc ar gymuned ehangach. Mae’r contract wedi’i ddyfarnu o dan Fframwaith Contractwr Ysgolion ac Adeiladau Cyhoeddus Gogledd Cymru.” Mae’r broses gaffael hon yn golygu bod gan gynghorau grwp o gontractwyr sydd wedi’u cyn-gymhwyso fel nad oes angen iddynt fynd drwy broses dendro hir a drud, gan arbed amser a chostau. Nid yn unig maer contractwyr yn cael eu dewis mewn ffordd deg, maent yn cynyddu’r buddion ir gymuned leol, cynnal datblygiad economaidd a darparu adeiladau syn gadarn yn amgylcheddol wrth greu swyddi a phrentisiaethau. Dywedodd John OCallaghan, Rheolwr Gyfarwyddwr Kier Construction Northern: “Mae Kier yn falch o gael eu dewis fel y contractwr i foderneiddio Ysgol Uwchradd Cei Connah ac rydym yn hyderus y byddwn yn darparur amgylchedd dysgu âr gwerth gorau ac syn ysbrydoli, gan ddarparu buddion cymunedol gan gynnwys cyflogaeth leol a hyfforddiant.” Or chwith: Cyng Bernie Attridge, Damian Hughes - Cyngor Sir y Fflint, Cyng Aaron Shotton, Dylan Wyn Jones - Kier, Bob Adams - Kier, Martin White, Cyng Chris Bithell ac Ann Peers