Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Twyll yn ymwneud â chwpan y byd

Published: 20/06/2014

Mae timau Safonau Masnach ledled Gogledd Cymru’n ymwybodol bod rhai preswylwyr wedi derbyn llythyr yn hawlio eu bod wedi ennill swm mawr o arian e.e. £750,000 gan ‘Euro Millions FIFA World Cup Super Lottery’. Mae swyddogion Safonau Masnach yn rhybuddio pobl, os ydynt yn derbyn llythyr fel yr un a ddisgrifiwyd, i beidio ag ymateb ac yn hytrach i roi gwybod i Action Fraud amdano ar unwaith. Dywedodd Kevin Jones, Prif Reolwr Safonau Masnach Wrecsam a Chadeirydd grwp Penaethiaid Safonau Masnach Gogledd Cymru: “Nid yw’r math hwn o dwyll yn newydd, bu nifer o enghreifftiau tebyg yn y gorffennol; fodd bynnag pan fydd rhywun yn derbyn llythyr drwy’r drws sy’n hawlio ei fod yn gysylltiedig â Chwpan y Byd gall fod yn argyhoeddiadol. Mae’r llythyr yn cynnwys nifer o logos sy’n ceisio rhoi dilysrwydd i’r llythyr ac yn gofyn i’r derbynnydd gysylltu â Rheolwr y Gwasanaeth Tramor. Mae’n debyg y byddant yn gofyn i’r unigolion sy’n ffonio’r rhif ddarparu manylion personol a manylion banc. Byddwn yn cynghori’r preswylwyr i beidio â darparu’r wybodaeth oherwydd perygl y gellid gwagio’r arian sydd yn eu cyfrifon banc.” Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dos y Strategaeth Gwastraff, Diogelu’r Cyhoedd a Hamdden: “Byddwn yn cymryd yr holl gamau angenrheidiol i rybuddio pobl am gynlluniau i’w twyllo. Mae timau Safonau Masnach drwy’r rhanbarth yn cydweithio ag asiantaethau gorfodi eraill ac os nad yw pobl yn gwybod o ble mae llythyr yn dod, rhowch wybod iddynt ar unwaith a pheidiwch â datgelu unrhyw fanylion.” Dylai’r unigolion gofio’r pwyntiau hyn i amddiffyn eu hunain yn erbyn twyll loteri: · Peidiwch byth ag ymateb i’r fath ohebiaeth. Os nad ydych wedi cymryd rhan mewn loteri yna nid oes modd i chi fod wedi’i ennill. · Mae loterïau swyddogol o wledydd eraill yn gweithredu’n debyg iawn i’r National Lotto yn y DU. Nid oes unrhyw loteri swyddogol y gwyddwn amdanynt yn cysylltu â’r unigolion i roi gwybod eu bod wedi ennill. · Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw weithredwyr loteri swyddogol sy’n gofyn am ffi i gasglu’r enillion. Mae unrhyw gais i dalu ffi yn arwydd amlwg bod rhywun yn ceisioch twyllo. · Peidiwch byth â datgelu eich manylion banc neu dalu ffioedd ymlaen llaw. · Os yw’r manylion cyswllt yn cynnwys cyfeiriadau e-bost megis @hotmail.com neu @yahoo.com, neu gyda rhifau’n dechrau gyda 07, yna byddwch yn amheus gan fod y rhain am ddim. · Mae loterïau swyddogol yn ffynnu ar gyhoeddusrwydd. Os ydynt yn gofyn i chi gadw’ch enillion yn gyfrinach, mae’n debyg mai twyll ydyw. · Mae nifer o’r loterïau twyllodrus yn gwneud camgymeriadau sillafu neu gamgymeriadau gramadeg – gweler hyn fel rhybudd o dwyll. · Gwnewch ychydig o ymchwil – os oes gennych fynediad at y rhyngrwyd yna defnyddiwch wefannau chwilio i weld profiadau unigolion eraill. Gwiriwch gyda’ch ffrindiau a’ch teulu. Dylai’r preswylwyr sydd eisiau cyngor neu ganllawiau ynglyn â mater defnyddwyr gysylltu â gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 08454 04 05 05 neu 08454 04 05 06 ar gyfer gwasanaeth yn Saesneg (www.adviceguide.org.uk). Dylid rhoi gwybod i Action Fraud am dwyll posibl ar 0300 123 2040 (www.actionfraud.police.uk)