Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Clwb Swyddi’r Wyddgrug

Published: 16/12/2016

Roedd lansiad Clwb Swyddi’r Wyddgrug, clwb swyddi mwyaf newydd y sir, yn llwyddiant ysgubol. Mynychodd y Cynghorydd Brian Lloyd y sesiwn gyntaf. Maer clwb swyddi yn cael ei gynnal bob bore dydd Mercher yn Llyfrgell yr Wyddgrug rhwng 10am a 12pm. Bydd yn ail-agor yn y Flwyddyn Newydd ar 4 Ionawr. Mae clybiau swyddi yn cael eu cynnal ar hyd a lles y sir - yn Llyfrgell y Fflint, Llyfrgell Cei Connah, CAB Cei Connah, Campws Cymunedol John Summers a Llyfrgell Treffynnon. I gael manylion, ffoniwch 01244 846090. PENNAWD: Carol Lovelock (Cymunedau Am Waith), y Cynghorydd Bryan Lloyd, Teresa Allen (Cymunedau yn Gyntaf) a Carol Broad (Cymunedau Am Waith)