Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cerdyn Nadolig Arweinydd y Cyngor 
  		Published: 16/12/2016
Mae disgybl ysgol leol wedi ennill cystadleuaeth i ddefnyddio ei gwaith celf 
fel cerdyn Nadolig swyddogol gan Arweinydd Cyngor Sir y Fflint.
Bob blwyddyn mae’r Cynghorydd Aaron Shotton yn gwahodd plant ysgol i dynnu llun 
tymhorol gydar dyluniad buddugol yn cael ei argraffun broffesiynol.
Eleni daeth tro disgyblion Ysgol Bryn Deva, Cei Connah ac ymwelodd y Cynghorydd 
Shotton âr ysgol i gwrdd â rhai or rhai oedd wedi cymryd rhan yn y 
gystadleuaeth a enillwyd gan ddisgybl blwyddyn 5 Jessica Lyons.
Jessica yn cael tocynnau ar gyfer pantomeim Aladdin a’r llawr sglefrio yn 
Theatr Clwyd.
Y rhai a ddaeth yn ail oedd Vickie Allen a Teodora Bolmaga, sydd ym mlwyddyn 5 
hefyd.
Dywedodd y Cynghorydd Shotton: “Roedd y safon yn uchel iawn ac roeddwn yn hapus 
iawn gyda chreadigrwydd yr holl ddyluniadau. Gwnaeth y disgyblion ymdrech fawr 
iawn ac roedd yn anodd iawn dewis enillydd. Maer cerdyn yn cael ei anfon at 
holl Gynghorwyr a chynrychiolwyr y Llywodraeth gan gynnwys Prif Weinidog Cymru, 
Carwyn Jones AC.”
Capsiwn: Y Cynghorydd Shotton gyda rhai or disgyblion a gymerodd ran yn y 
gystadleuaeth ac athrawes, Tamsin Crostone.