Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyllid pellach ar gyfer adfywio Glannau Dyfrdwy

Published: 21/12/2016

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £100,000 pellach i Cyngor Sir y Fflint ar gyfer dau brosiect adfywio yng Nglannau Dyfrdwy. Bydd yr arian, or rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, yn cael ei ddefnyddio i ymestyn y prosiect Tîm Gwyrdd tan 31 Mawrth 2017, a hefyd er mwyn helpu i baratoi cais arian y Loteri ar gyfer y prosiect Gofal Plant Pepperpot. Mae Groundwork wedi cyflwyno’r prosiect Tîm Gwyrdd ar gyfer Cyngor Sir y Fflint mewn partneriaeth â Chymunedau yn Gyntaf. Bydd £35,000 yn cefnogi seithfed rownd o hyfforddeiaethau. Hyd yma, mae pob hyfforddeiaeth wedi cefnogi 20 o bobl ifanc nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEET) ar raglen waith a hyfforddiant 12 wythnos a gynlluniwyd i gynyddu eu cyfleoedd o sicrhau cyflogaeth neu addysg yn y dyfodol. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint: “Maer rhaglen hon wedi bod yn llwyddiant ysgubol hyd yn hyn, gydar rhan fwyaf o fynychwyr yn cael cymwysterau ymarferol a hefyd cael hwb enfawr mewn hyder wrth gael profiad o strwythur a disgyblaeth gwaith. Maer bobl ifanc wedi gweithio gyda swyddogion Gwasanaethau Stryd a cheidwaid y Cyngor i fynd ir afael â phroblemau amgylcheddol. Mae hyn wedi rhoi iddynt ddealltwriaeth o’r heriau o reoli eu hamgylchedd lleol - ac mae hwn yn werthfawrogiad maent yn mynd gyda nhw a’i drosglwyddo ir gymuned. Mae £65,000 pellach wedi ei gymeradwyo ar gyfer prosiect yr hen Pepperpot Inn fel canolfan posib ar gyfer yr ymagwedd greadigol hon at ofal plant yn ardal Glannau Dyfrdwy, lle mae asesiad wedi nodi bod prinder darpariaeth gofal plant yn yr ardal. Maer adeilad yn eiddo ir Cyngor ac wedi sefyll yn wag am nifer o flynyddoedd ac, oherwydd ei gyflwr, wedi methu â sicrhau tenant masnachol. Maer adeilad wedi ei leoli ger Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy ac felly mae mewn lleoliad amlwg iawn. Bydd y cam hwn or prosiect yn edrych ar y dyluniad, costio a chaniatâd sydd ei angen i wneud cais am arian o raglenni mawr fel y Loteri. Os bydd yn llwyddiannus, bydd y prosiect yn datblygu busnes newydd mewn lleoliad amlwg yng Nglannau Dyfrdwy i wasanaethu pobl leol trwy ddarparu ymagwedd arloesol tuag at ofal plant syn cyfateb i anghenion yr ardal. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Mae croeso mawr i’r ddau gyhoeddiad yma, mae maent yn bosibl yn unig oherwydd y gwaith gwych maer Cyngor eisoes wedi ei wneud yn cyflwynor rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yng Nglannau Dyfrdwy. Mae Glannau Dyfrdwy yn ganolbwynt economaidd o bwys ar gyfer Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr ac maer rhaglen hon yn elfen bwysig o ran hybu ffyniant yr ardal.