Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd Sir y Fflint ar flaen y gad yng Nghymru

Published: 04/01/2017

Mae ffordd arloesol o ddarparu gwasanaethau hamdden a llyfrgell wedi cael cefnogaeth fawr gan y gweithlu, yn dilyn pleidlais. Pleidleisiodd 92.5% o weithwyr y gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd, a rhoesant gefnogaeth ysgubol o 90% ir cynigion i sefydlu Cymdeithas Mantais Gymunedol i ddarparu gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd o 1 Gorffennaf 2017. Daeth hyn yn dilyn penderfyniad y Cyngor i gytuno i sefydlur corff newydd i reolir gwasanaethau o fis Gorffennaf 2017. Mae hyn yn torri tir newydd i Gymru ac yn un o lond llaw o sefydliadau i gynnal gwasanaethau fel y rhain yn y DU gyfan. Maer cynllun busnes yn dangos y gellir gwneud dros £500,000 o arbedion yn y flwyddyn gyntaf i weithrediad y gwasanaeth, tra mae Cyngor Sir y Fflint yn gwneud buddsoddiad cyfalaf o bron i £1 miliwn i wella adeiladau hamdden a llyfrgelloedd, mannau chwarae, caeau artiffisial yn y sir. Nod cyffredinol y model yw darparu arbedion o 10% flwyddyn ar ôl blwyddyn tran cynnal a gwella lefelau gwasanaeth presennol a diogelu swyddi. Bydd gweithwyr yn cael eu cynrychioli ar Fwrdd y sefydliad. Bydd y sefydliad newydd ar Cyngor yn gweithion agored ac yn dryloyw, gyda gwerthoedd cydweithredol, a bydd yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn drwy fwrdd partneriaeth. Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton: “Bydd y sefydliad hwn yn un or ychydig sefydliadau dan arweiniad gweithwyr sy’n cynnal gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd yn y Deyrnas Unedig, ac mae lefel y gefnogaeth a ddangoswyd gan weithwyr yn dilyn y bleidlais ddiweddar yn unigryw. Bydd Cymdeithas Mantais Gymunedol yn gallu dangos gwerth rhoi gweithwyr wrth galon sefydliad a helpu i lunio modelau o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer y dyfodol syn dangos sut y gall gwasanaethau sydd mewn perygl gael eu diogelu tran cyflawni gofynion ariannol a gwasanaeth a chadw atebolrwydd i’r cyhoedd ar gweithlu.” Dywedodd Mike Welch, Rheolwr Gyfarwyddwr newydd y sefydliad a arweinir gan weithwyr: “Mae pawb wedi gweithio mor galed dros y misoedd diwethaf i gyflawnir canlyniad hanesyddol hwn, ac rwyn hynod o falch i gael fy mhenodi i arwain y sefydliad newydd. Rydym yn credu y bydd ein cydweithwyr yn ymateb ir her. Does neb mewn sefyllfa well na nhw i allu adnabod gwelliannau ac arloesedd o ran darparu gwasanaethau er budd ein cwsmeriaid. Byddwn yn gweithio gydan gilydd ac yn canolbwyntio ar ein busnes craidd an gweledigaeth sef Mwy o bobl, Mwy o Feddyliau a Chyrff Egnïol, yn Fwy Aml.” Mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair a chyffrous ar gyfer hamdden a llyfrgelloedd yn Sir y Fflint.”