Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cae chwaraeon artiffisial newydd ar gyfer yr Wyddgrug
  		Published: 11/01/2017
Mae bwriad i osod cae chwaraeon artiffisial newydd yn Ysgol Uwchradd Alun yn yr 
Wyddgrug, yn ôl adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor 
Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn hwyrach y mis hwn.
Mae hyn yn rhan o ymrwymiad sylweddol o £900,000 i ddarpariaeth chwarae yn y 
rhanbarth gan Gyngor Sir y Fflint. Bydd yr arian yn cefnogi nodau ac amcanion 
ehangach y Cyngor ac yn sicrhau ei fod yn dal i gyflawni amcanion ei raglen 
iechyd, yn ei ysgolion ac ar gyfer y cyhoedd.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton: 
“Mae’r Cyngor wedi gwneud ymrwymiad clir i gynnal darpariaeth chwarae o fewn y 
Sir ac maen buddsoddi mewn ardaloedd chwarae a chaeau chwaraeon synthetig fel 
hwn yn yr Wyddgrug. Rwy’n falch bod Sir y Fflint wedi cymryd y cam arloesol hwn 
a’i fod yn dal i ddiogelu cyfleusterau o’r fath i’n trigolion allu eu defnyddio 
a’u mwynhau.”
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Hamdden Cyngor 
Sir y Fflint:
 “Rydw i’n falch iawn o’r gwelliannau sydd ar y gweill i ardaloedd chwarae a 
chaeau chwaraeon sydd wediu nodi yn yr adroddiad hwn. Rwy’n siwr y byddant yn 
boblogaidd iawn ymysg y disgyblion a’r trigolion lleol.
Dywedodd yr Aelod Ward lleol, y Cynghorydd Haydn Bateman:
 “Rwyn hapus iawn efo’r buddsoddiad hwn gan y bydd y cae yma’n cael llawer o 
ddefnydd gan Ysgol Alun ac Ysgol Maes Garmon, yn ogystal â’r Ganolfan Hamdden. 
Bydd yn sicrhau bod y cyfleuster cymunedol gwych yma’n cael ei ddiogelu ar 
gyfer y dyfodol.”
 
LLUN: Y Cyng. Aaron Shotton, y Cyng. Haydn Bateman a’r Cyng. Kevin Jones gyda 
rheolwr y Ganolfan Hamdden, Gary Roberts, a disgyblion Blwyddyn 9 Ysgol Alun.