Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyllideb Refeniw Cronfar Cyngor

Published: 12/01/2017

Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried camau terfynol sefydlu cyllideb refeniw 2017/18 pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth 17 Ionawr. Drwy gydol y broses gyllidebu, mae’r Cyngor wedi ceisio diogelu gwasanaethau ‘rheng flaen’, cyfleusterau cymunedol a chyllid ar gyfer ysgolion a Gofal Cymdeithasol. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Mae’n bleser gennym gyhoeddi, o ganlyniad i gynllunio ariannol arloesol ac effeithiol, na fydd unrhyw fygythiadau pellach i wasanaethau’r Cyngor yn 2017/18. Mae hyn er gwaethaf gorfod bodloni effaith y pwysau cynyddol o’r galw cynyddol ar wasanaethau, yn enwedig gofal cymdeithasol, a chyfyngiadau ar wariant sector cyhoeddus ledled y DU.” Er bod ‘bwlch’ cyllid o £1.9m yn parhau i fod i’w ganfod, mae’r Cyngor yn benderfynol yn ei nod o ddiogelu gwasanaethau rheng flaen, yn enwedig ein huchelgais i gynyddu cyllid i ysgolion cymaint â £1.2m y flwyddyn nesaf. Ond mae dewisiadau cyfyngedig ar gael i ni i gyflawni hyn, ac eithrio drwy drethiant lleol, defnyddio ein cronfeydd wrth gefn dros dro a chymryd risgiau ar reoli pwysau costau fel cyflogau a chwyddiant. Ychwanegodd y Cynghorydd Shotton: “Byddwn yn parhau i bwysleisio bod angen diwygio’r fformwla cyllido ar gyfer llywodraeth leol. Ni all Sir y Fflint barhau fel cyngor â chyllid isel, gan dderbyn £17.5m yn llai y flwyddyn na’r grant cyfartalog ar gyfer cynghorau Cymru, yn seiliedig ar faint poblogaeth cymharol.”