Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cyngor yn Ariannu Rhaglen Gyfalaf
  		Published: 12/01/2017
Bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol Cyngor Sir y Fflint yn 
ystyried adroddiad ar Raglen Gyfalaf y Cyngor 2017/18 - 2019/20, pan fydd yn 
cyfarfod dydd Gwener, 20 Ionawr. 
Mae’r Rhaglen Gyfalaf yn cefnogi asedau isadeiledd ac adeiladau’n bennaf (e.e. 
priffyrdd ac ysgolion) a buddsoddi mewn modelau gwasanaethau newydd neu wediu 
hail-fabwysiadu (e.e. hamdden a gofal cymdeithasol). Mae’r buddsoddiadau 
cyfalaf arfaethedig wedi’u halinio â chynlluniau busnes gwasanaeth portffolio 
a’r Cynllun Gwella.
Mae rhai o’r buddsoddiadau allweddol wedi’u hamlinellu isod:
· Mae Ysgol Uwchradd Castell Alun ac ysgol gynradd Glan Aber wedi’u nodi fel y 
rhai â’r anghenion mwyaf brys, gan fod angen estyniad ac ailfodelu’r adeiladau 
cyfredol. Mae buddsoddiad sydd wedi dod i gyfanswm o £4.6 miliwn wedi’i 
ddyrannu ar gyfer gwaith yng Nghastell Alun a Glan Aber yn elwa o fuddsoddiad 
sydd bron i £1 miliwn.
o Mae Ysgol Uwchradd Castell Alun am gael estyniad, gyda darpariaeth bloc Celf 
a Dylunio a Thechnoleg dau lawr, ac ailfodelu ardaloedd eraill. Dyddiad 
cychwyn, blwyddyn ariannol 2018/19.
o Bydd ysgol gynradd Glan Aber, Bagillt, yn cael addasur neuadd bresennol i 
ddarparu dau fan dysgu addas, ac adeiladu neuadd newydd, syn addas i nifer y 
plant ar y gofrestr, ynghyd ag addasiadau bach i dair ystafell ddosbarth. 
Dyddiad cychwyn, blwyddyn ariannol 2017/18. 
· Mae cyfanswm o £4 miliwn o fuddsoddiad wedi’i ddyrannu ar gyfer adeiladu 
cyfleuster gwasanaethau dydd anableddau dysgu newydd sbon, a fydd yn cymryd lle 
canolfan Glanrafon yn Queensferry. Maen rhan o ymrwymiad y Cyngor i ofal dydd 
ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth.
· Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl – mae dyraniadau blynyddol o bron i £1.5 
miliwn wedi’u nodi ar gyfer addasiadau, i alluogi preswylwyr i barhau i fyw’n 
annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.
· Mae cynnydd o £100,000 o 2017/18 ymlaen i gyflwyno rhaglen uwchraddio 
toiledau yn yr ysgolion uwchradd a chynradd.
· Mannau chwarae a chaeau chwaraeon synthetig – mae dyraniad ychwanegol o bron 
i £900,000 dros dair blynedd wedi’i ganfod i ariannu cyfarpar chwarae newydd, 
uwchraddiadau i fannau chwarae a disodli arwyneb caeau chwaraeon synthetig, 
sydd mewn cyflwr gwael.
· Cynnal gwelliannau mewn canolfannau hamdden a llyfrgelloedd, a fydd yn 
gwella’r ddarpariaeth. Cyfanswm y buddsoddiad ar gyfer y gwelliannau hyn yw 
£454,000 
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, yr Aelod Cabinet Cyllid: 
“Er gwaethaf y cyngor yn wynebu her ariannol ddigynsail, rydym wedi nodi 
rhaglen gyfalaf glir ac uchelgeisiol dros y pedair blynedd nesaf ar gyfer 
isadeiledd ac ysgolion. Rwy’n falch y byddwn yn gallu cynnal gwelliannau yn y 
canolfannau hamdden a llyfrgelloedd, buddsoddiad sylweddol yn ein hysgolion a 
darparu canolfan ddydd anabledd dysgu newydd or radd flaenaf, sy’n dangos bod 
Sir y Fflint yn gyngor blaengar ac arloesol sy’n buddsoddi yn lles ein sir.”