Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyfraddau casglu uchaf erioed

Published: 19/06/2014

Mae ffigurau newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn dangos mai Sir y Fflint ywr awdurdod gorau yng ngogledd Cymru ac yn rhannu’r safle uchaf ar draws Cymru gyfan am gasglu treth y cyngor. Yn 2013-14, casglodd y Cyngor 97.9 y cant o dreth gyngor, y gyfradd casglu uchaf mewn blwyddyn a gyflawnwyd erioed yn Sir y Fflint - a chynnydd o 0.1 y cant oi gymharu âr flwyddyn flaenorol. Efallai bod cynnydd o 0.1 y cant yn swnio fel ffigwr bychan ond mewn arian parod maen cyfateb i £60,000 o incwm ychwanegol. Yn ogystal â gwneud y mwyaf casglu, y gwasanaeth treth y cyngor yn parhau i drawsnewid y ffordd y maen gweithredu drwy ei gwneud yn haws i drigolion i dalu eu biliau. Gall cartrefi Sir y Fflint bellach dalu trwy ddebyd uniongyrchol yn wythnosol - un or ychydig gynghorau yng Nghymru sy’n cynnig cynllun talu hyblyg or fath. Gall trigolion Sir y Fflint hefyd dderbyn eu biliau drwy e-bost a gan fod negeseuon e-bost yn cael eu hanfon ar yr un diwrnod ni fydd yna unrhyw oedi fel sy’n digwydd weithiau pan anfonir biliau drwy’r post. Bydd trigolion syn cofrestru i dderbyn eu biliau yn electronig yn dal yn gallu lawrlwytho ac argraffu biliau. Wrth sôn am y cyhoeddiad, dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Maen dipyn o gamp, yn enwedig yn y sefyllfa economaidd sydd ohoni, ac mae hefyd yn newyddion da i drigolion Sir y Fflint syn golygu bod mwy o arian yn dod i mewn ir Cyngor yn gynt i helpu i dalu am wasanaethau rheng flaen hanfodol. “Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gwella ein cyfradd casglu treth y cyngor am y chweched flwyddyn yn olynol, rydym ni naill ai wedi cynnal neu wedi gwella ein sefyllfa casglu. Aeth y Cynghorydd Shotton ymlaen i ddweud: “Rydym ni hefyd yn cydnabod y gall rhai teuluoedd ei chael hi’n anodd talu, ac rydym nin annog unrhyw un syn cael trafferth talu i gysylltu â gwasanaeth treth y cyngor yn syth bin fel y gallwn ni ddarparu cymorth ac arweiniad ymarferol ar y ffordd orau o dalu.