Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn Chwifio’r Faner

Published: 03/02/2017

Mae Cyngor Sir y Fflint yn codir faner enfys y tu allan i Neuadd y Sir unwaith eto eleni i gefnogi mis hanes pobl lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LGBT) yn ystod mis Chwefror. Maer digwyddiad blynyddol hwn yn rhoi cyfle i bobl ddysgu mwy am hanes a chyflawniadau pobl lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol ar mudiad hawliau pobl hoyw a hawliau sifil. Mae hefyd yn amser i gofio’r gwahaniaethu y mae llawer wedi ei wynebu ar daith sydd wedi ei gwneud tuag at gydraddoldeb. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol a Chefnogwr Diogelu Cyngor Sir y Fflint: “Mae chwifio’r faner enfys yn bwysig ir Cyngor. Mae chwifior faner drwy gydol mis hanes LGBT yn anfon neges glir bod Cyngor Sir y Fflint yn ymrwymo i gydraddoldeb i bawb, o fewn y Cyngor ac yn y gymuned ehangach”. Y thema eleni yw dinasyddiaeth; Addysg Bersonol, Gymdeithasol, Iechyd ac Economaidd; a’r gyfraith gan fod 2017 yn nodi 50 mlynedd ers dad-droseddu gwrywgydiaeth yn rhannol yng Nghymru a Lloegr. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’w gwefan yn http://lgbthistorymonth.org.uk/