Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Newyddion priffyrdd

Published: 06/02/2017

Mae Cyngor Sir y Fflint yn paratoi ar gyfer gwaith arwynebu ffyrdd i wella rhwydwaith priffyrdd gwledig a gynhelir yn ystod Ebrill/Mai. Bydd y Cyngor yn buddsoddi £400k ar wahanol safleoedd ar draws y rhwydwaith ac unwaith y bydd y safleoedd ar gyfer triniaeth yn cael eu cadarnhau, caiff y wybodaeth hon ei chyhoeddi ar wefan y Cyngor. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Strydwedd a Chludiant ar Dirpwy Arweinydd, Cyngor Sir y Fflint: “Rydym yn falch o allu buddsoddi mewn isadeiledd priffyrdd fel hyn a chynnal y rhwydwaith ffyrdd i safon y mae trigolion Sir y Fflint wedi arfer iddi. A chwblhaodd y Cyngor waith yn ddiweddar i wella cyffordd yr A5026, Lloc. Roedd y gwaith yn cynnwys ailfodelu’r gyffordd a gosod ynys traffig, gan gynnwys arwyddion gwell a gosod goleuadau stryd LED. Bydd y cynllun hwn yn gwella gwelededd a newidiadau i osodiad y ffordd yn caniatau i gerbydau symud yn ddiogel gyda’r bwriad o leihau gwrthdrawiadau ar y safle hwn sy’n cael ei gydnabod am achosi damweiniau. Meddai’r Cyng. Attridge: Rwy’n falch bod y Cyngor wedi llwyddo i gael arian gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun gwella diogelwch ffyrdd pwysig hwn.”