Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathlu llwyddiant

Published: 23/06/2014

Mae digwyddiad a drefnwyd gan Gymunedau’n Gyntaf yng Ngholeg Cambria i ddathlu mentergarwch lleol wedi tynnu sylw at lwyddiant Clwb Menter Rhwydwaith Entrepreneuriaeth Busnes (BEN) Sir y Fflint. Sefydlwyd y Clwb 18 mis yn ôl i helpu pobl i ddechrau eu busnes eu hunain, i roi cyngor i’r rhai sydd am ddatblygu syniad ar gyfer busnes ac i gynnig rhaglen fentora gydag arweinwyr cwmnïau lleol drwy gyfrwng cyfarfodydd rheolaidd. Mae Clwb BEN Sir y Fflint hefyd yn trefnu digwyddiad tebyg i Dragon’s Den ar gyfer darpar entrepreneuriaid. Sesiwn ar gyfer siaradwyr ysbrydoledig a gafwyd fore dydd Gwener 6 Mehefin, a chafwyd golwg cyffredinol ar fenter ac entrepreneuriaeth. Ymunodd Aelodau’r Cynulliad, Aelodau Seneddol, arweinwyr cymunedol a hyrwyddwyr busnes lleol i longyfarch aelodau a staff y Clwb ar ddechrau calonogol i’r prosiect. Dyma ambell stori lwyddiannus: Angie Atherton Autism Support, busnes sy’n cynorthwyo teuluoedd â phlant ifanc a phobl ifanc awtistig. Cafodd Angie ei mentora gan Christine Sheibani Comtek ar Lannau Dyfrdwy, a lansiodd ei busnes ei hun yn gynharach eleni. Ar ôl graddio mewn Dylunio penderfynodd Jonathan Ecroyd a James Clark sefydlu Mr J Designs ar ôl ymddangos gerbron y Dragons’ Den cyntaf a drefnwyd erioed ym mis Tachwedd 2012. Maent yn cael cymorth gan Paul Maddocks, cyn-berchennog Parkway Telecom a Leyla Edwards, Prif Weithredwr KK Fine Foods. Sefydlwyd Bluepointseo gan David James. Mae’r cwmni’n tywys pobl i wefannau er mwyn i gleientiaid ddenu mwy o gwsmeriaid; gallant fod yn gwerthu nwyddau, gwasanaethau neu’n gwmnïau cynhychu arweiniad. Mae David yn mynd i gyfarfodydd y Clwb yn rheolaidd ac yn cael ei fentora gan Adam Butler o Easy Online Recruitment. Mae Wayne Guest yn blymar cymwysedig. Ar ôl iddo golli’i waith, lansiodd ei fusnes ei hun, sef WD Guest Heating & Plumbing. Mae wedi bod ar gyrsiau’r tu allan i’r clwb i ennill tystysgrifau iechyd a diogelwch ac mae’n hyrwyddo’r rhaglen. Mae’r pedwar busnes hefyd yn cael cymorth gan Raglen Cychwyn Busnes, Busnes Cymru. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Rydym yn falch iawn bod Clwb Menter Sir y Fflint wedi bod mor llwyddiannus. Maer cyfleoedd a’r gefnogaeth mentora a gynigir yn wych - lle arall fyddech chi’n gweld arweinwyr busnes ysbrydoledig yn annog pobl leol? Mae’n rhoi hwb enfawr i economi Sir y Fflint ac rwy’n gobeithio y bydd y Clwb yn mynd o nerth i nerth. Askar Sheibani, Prif Weithredwr Comtek Group gafodd y syniad gwreiddiol o ddechrau prosiect BEN. CEO. Dywedodd Sheibani, sef Hyrwyddwr Entrepreneuriaeth Cymru: “Rwy’n hynod falch o’r hyn y mae BEN Sir y Fflint wedi’i gyflawni dros y 18 mis diwethaf; mae’r busnesau newydd wedi cael cyngor ac arweiniad gan yr entrepreneuriaid mwy profiadol ac, o ganlyniad, gwelwyd eu busnesau’n mynd o nerth i nerth. Mae Clwb Menter BEN Sir y Fflint yn destament i werth buddsoddi yn eich cymuned leol ac rwyf wrth fy modd yn gweld bod Sir y Fflint yn gwneud ei rhan dros economi Prydain.” Cymunedau’n Gyntaf, sy’n rhan o Wasanaeth Adfywio Cyngor Sir y Fflint, sy’n rhedeg Clwb Menter BEN Sir y Fflint, ac maent yn cynnig cymorth a chyngor i entrepreneuriaid neu bobl sydd am gychwyn busnes. Does dim tâl ymaelodi ac mae’r clwb yn cyfarfod bob yn ail ddydd Gwener am 10am ar Gampws Cymunedol John Summers. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Beverly Moseley, Cymunedau’n Gyntaf ar 01244 846090. Pennawd 1: Sylfaenwyr Mr J Designs, Jonathan Ecroyd a James Clark gydag un o’u dyluniadau. Pennawd 2: Angie Atherton o Angie Atherton Autism Support yn siarad yn y digwydiad. Pennawd 3: aelodau Clwb Menter Sir y Fflint yn cael cydnabyddiaeth am eu cyfranogiad dros y 18 diwethaf.