Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Polisi Diogelu Corfforaethol

Published: 10/02/2017

Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn adolygu adroddiad ar ddiogelu corfforaethol y Cyngor a gofynnir iddynt gymeradwyo polisi drafft ar gyfer ymgynghoriad eang pan fydd yn cyfarfod yr wythnos nesaf. Mae diogelu’n gysyniad ehangach na diogelu plant ac oedolion ac yn delio â hyrwyddo: Iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol; Amddiffyn rhag cam-drin neu esgeulustod; Addysg, hyfforddiant a hamdden; Cyfraniad at gymdeithas. Er bod Gwasanaethau Cymdeithasol yn arwain ar ddiogelu corfforaethol, mae’n gyfrifoldeb pob gwasanaeth ar draws y Cyngor. Mae cyfrifoldebau’r Cyngor ar gyfer diogelu’n cael eu nodi mewn deddfwriaeth, gan gynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol Cyngor Sir y Fflint: “Mae Sir y Fflint yn ymroddedig i’w gyfrifoldebau ac wedi cymryd camau cadarnhaol drwy sefydlu Panel Diogelu Corfforaethol mewnol, i sicrhau bod trefniadau cadarn yn eu lle i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion. “Mae’r Panel eisoes wedi cynnal hunanasesiad ac wedi nodi camau gweithredu yn ei rhaglen waith, sy’n arloesol ac yn flaengar. Mae’r rhain yn cynnwys, datblygu polisi Diogelu Corfforaethol llawn, cyflwyno hyfforddiant diogelu wedi’i anelu at bob gweithiwr ac aelod etholedig, a chynhyrchu adroddiad diogelu blynyddol i’r Cabinet a’r Pwyllgorau Craffu, gyda chyfres glir o ddangosyddion perfformiad i fesur llwyddiant. “Unwaith y caiff ei gymeradwyo gan y Cabinet, bydd y polisi drafft yn mynd allan ar gyfer ymgynghoriad ehangach.” Mae’r Panel yn cael ei gadeirio ar y cyd gan y Prif Swyddog, Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Prif Swyddog, Addysg ac Ieuenctid, ac yn cynnwys Arweinydd Diogelu dynodedig o bob Portffolio. Mae’r Aelod Cabinet, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Aelod Cabinet, Rheolaeth Gorfforaethol hefyd yn aelodau or Panel hwn.