Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynnig Gofal Plant i Gymru

Published: 10/02/2017

Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn adolygu adroddiad ar y Cynnig Gofal Plant i Gymru, a gofynnir iddynt ei gymeradwyo, yn dilyn cais llwyddiannus Sir y Fflint i fod yn un o ddim ond chwe chyngor i gymryd rhan yn y cam gweithredu cynnar. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ehangu ei gynnig i rieni sy’n gweithio sydd â phlant 3 a 4 oed, hyd at uchafswm o 30 awr yr wythnos o addysg a gofal plant cynnar am ddim am 48 wythnos y flwyddyn. Caiff y cynnig ei beilota o fis Medi 2017 yn Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Abertawe, Blaenau Gwent a Rhondda Cynon Taf. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: “Rwyf wrth fy modd bod Sir y Fflint wedi’i dewis i beilota’r cynllun hwn a fydd o fudd i’n rhieni sy’n gweithio’n galed ac yn eu helpu i gydbwyso magu eu plant gyda’u bywydau gweithio. Bydd gallu cynnig 30 awr o ofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’r teuluoedd sy’n gymwys. Mae hyn hefyd yn cynnwys gofal plant yn ystod y gwyliau a fydd yn helpu gyda chostau uchel gofal yn ystod y gwyliau.” Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton: “Bydd mynediad i ofal plant hyblyg am ddim o fudd sylweddol i deuluoedd sy’n gweithio ar draws Cymru ac rwy’n falch y bydd Sir y Fflint yn arwain y ffordd o ran darparu’r nod allweddol hwn gan Lywodraeth Cymru.” Yr argymhelliad yw peilota’r cynllun ar draws Sir y Fflint, hyd at uchafswm o 441 o blant ar gyfer blwyddyn ysgol 2017-18.