Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mynd i’r afael â baw ci

Published: 10/02/2017

Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint adolygu a chymeradwyo adroddiad ynglyn â chyflwyno rheolaethau llymach ar reoli cwn mewn mannau agored cyhoeddus pan fydd yn cyfarfod yn nes ymlaen yn y mis hwn. Fel a ddywedwyd eisoes, cynullwyd Grwp Tasg a Gorffen o Aelodau ynghyd yn 2016 i ystyried y cynlluniau a oedd ar gael i fynd ir afael â baw ci, a oedd wedi cael eu cyflwyno mewn mannau yn Lloegr a thramor, gan gynnwys cyflwyno cynlluniau DNA cwn a chreu Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus (GGMC). Yn dilyn trafodaeth lawn ym Mhwyllgor Trosolwg a Chraffur Cyngor ar yr Amgylchedd, argymhellwyd ir Cabinet beidio â chyflwyno cynllun DNA cwn ar hyn o bryd, ond maer adroddiad yn argymell rhoi Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus newydd ar waith yn lle’r Gorchymyn Rheoli Cwn cyfredol, a fyddai’n berthnasol i holl fannau agored y Sir. Nid yw’r Gorchymyn Rheoli Cwn cyfredol ond yn nodi’r angen i berchnogion cwn gael gwared â baw eu ci o ardaloedd cyhoeddus. Bydd y Gorchymyn Gwarchod newydd yn rhoi mwy o bwerau i’r Cyngor roi troseddau dynodedig eraill mewn grym, fel gwahardd cwn yn llwyr neu orfodi cadw cwn ar dennyn mewn rhai mathau o fannau agored. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd a Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Mae hwn yn gam cadarnhaol iawn i fynd ir afael â baw ci, yn ogystal ag ymdrin â phroblemau eraill, fel cwn yn crwydron rhydd mewn ardaloedd chwarae i blant, caeau chwaraeon wediu marcio neu ardaloedd hamdden penodol eraill. Er ein bod yn cydnabod pwysigrwydd rhoi ymarfer corff i’n hanifeiliaid anwes, mae angen cydbwysedd er mwyn sicrhau y gall pawb syn defnyddio ein mannau agored wneud hynnyn ddiogel.