Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor yn croesawu adroddiad cyllid

Published: 13/02/2017

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi croesawu adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) ar ei waith cynllunio ariannol cadarn. Roedd yr adolygiad yn canolbwyntio ar y cwestiwn canlynol: A yw trefniadau cynllunio arbedion ariannol y cyngor yn cefnogi gwytnwch ariannol? Ar ateb i hynny yw bod gan y Cyngor fframwaith cynllunio ariannol cadarn ac maen parhau i gryfhau ei waith cynllunio ariannol i gefnogi gwell gwytnwch ariannol yn y dyfodol. Mae hyn yn ganlyniad cadarnhaol sy’n derbyn croeso, ac mae’n dangos pa mor galed maer Cyngor wedi gweithio o ystyried yr hinsawdd ariannol bresennol, y setliadau gostyngol i awdurdodau lleol ar ffaith bod Sir y Fflint yn gyngor sy’n cael llai o gyllid y pen o gymharu â llawer o awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Yn 2016-17, cafodd Sir y Fflint £185m gan Lywodraeth Cymru, sy’n cynrychioli £1,196 fesul person yn y sir, swm is na chyfartaledd Cymru a gostyngiad termau real o 10.1% y pen ers 2013-14. Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett: “Mae ein fframwaith cadarn ar gyfer cynllunio ariannol, gwneud arbedion a bod yn ddarbodus gydan harian - sydd wedi bod yn graig i ni drwy flynyddoedd ariannol anodd - wedi cael ei gydnabod gan Swyddfa Archwilio Cymru. Maen galonogol i wybod y cawn ein cydnabod gan ein harchwiliwr allanol cenedlaethol.” Byddain anarferol ir Archwilydd Cyffredinol beidio ag awgrymu maes iw wella. Yn yr achos hwn, dim ond un maes sydd wedi cael ei nodi yn yr adroddiad - parhau i gadarnhau ein cynlluniau i wneud arbedion mewn da bryd cyn y flwyddyn ariannol mewn cwestiwn.