Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cartrefi Newydd Abermorddu
  		Published: 14/02/2017
Mae cwmni rheoli eiddo Cyngor Sir y Fflint, NEW Homes (Tai Gogledd Ddwyrain 
Cymru), wedi meddu deg o gartrefi newydd sbon i helpu i roi hwb i nifer y tai 
fforddiadwy sydd ar osod yn y sir.
Mae tri or cartrefi newydd ar ddatblygiad tai newydd Anwyl yn Abermorddu. 
Wedii gynllunio i ymateb ir heriau a brofir gan drigolion wrth gael mynediad 
at dai fforddiadwy, mae NEW Homes wedi’i sefydlu gan y Cyngor i gynyddur 
dewisiadau tai sydd ar gael i drigolion lleol. Maen cynnig nifer o wasanaethau 
rheoli tai wedi’u teilwra a’u cynllunio i gynyddu nifer ac ansawdd y tai yn y 
sir.
Maer eiddo wedi’u trosglwyddo i NEW Homes fel rhan o rwymedigaethau tai 
fforddiadwy datblygwyr datblygiadau preifat. Mae hyn yn sicrhau bod 
datblygiadau newydd yn diwallu anghenion pobl leol o ran tai fforddiadwy.
Roedd y tenantiaid newydd yn falch iawn o fod yn gallu symud i mewn ar yr un 
diwrnod y cafodd y cartrefi eu trosglwyddo i NEW Homes.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a Chadeirydd Bwrdd NEW Homes, y 
Cynghorydd Bernie Attridge, sydd wedi ymweld â nifer o’r tenantiaid newydd i’w 
croesawu i’w cartrefi newydd:
“Mae NEW Homes wedi’i sefydlu yn benodol i gwrdd âr angen am dai fforddiadwy 
yn ein cymunedau lleol ac mae rhoi’r tai hyn fel rhan o ganiatâd cynllunio’r 
datblygwr yn helpu i gyflawni hyn. Rwyf yn falch o groesawu’r tenantiaid newydd 
i’w cartrefi newydd ac maen braf gweld teuluoedd yn ailgychwyn byw.”
Meddai Mathew Anwyl, Rheolwr Gyfarwyddwr Cartrefi Anwyl: “Rydym ni’n falch o 
fod yn rhan o ymgyrch tai fforddiadwy NEW Homes yn Sir y Fflint drwy ddarparu 
tair uned fforddiadwy yn Abermorddu. Mae darparu tai newydd fforddiadwy o 
ansawdd uchel er budd y gymuned leol yn bwysig ac rydym ni’n falch bod NEW 
Homes eisoes wedi croesawu eu tenantiaid cyntaf.”
	 
Y Cynghorydd Attridge yn cyflwyno allweddi a thusw i denant hapus yn 
Abermorddu.