Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Archwiliwch droedfryniau Gogledd Cymru

Published: 15/02/2017

Mae Llwybr Cyswllt Cymru newydd ag arwyddion ar ei hyd ac yn barod i’w archwilio! Yn ymestyn dros ddeunaw milltir ac yn mynd trwy bedair sir, mae Llwybr Cyswllt Cymru bellach yn cysylltu â Llwybr Arfordir Cymru trwy ochr ddeheuol Pont Droed Saltney Ferry gan fynd trwy Saltney, Bretton, Dodleston, Burton Meadows, Honkley, Shordley Hall, Caer Estyn, Caergwrle, Cymau, Ffrith, Four Crosses ac yn olaf ymuno â llwybr Clawdd Offa ar hyd Llwybr y Gweundir yng Nghoed Llandegla. Beth am gadw’r adduned Blwyddyn Newydd yna a chwilio am eich esgidiau cerdded a threulio diwrnod hamddenol yn cerdded o Saltney i Gaergwrle? Wedyn gallwch ymweld â Chastell Caergwrle, cyn cael tamaid o fwyd ac yna dal y trên neu fws yn ôl i Gaer. Neu fe alwch gerdded o Gaergwrle i Glawdd Offa yn Llandegla, gan fwynhau’r golygfeydd godidog or rhostiroedd uchel. Yna cerdded ar hyd llwybr Clawdd Offa i bentref Llandegla lle medrwch ddal y bws yn ôl i Gaergwrle. Os ydych awydd cerdded y llwybr dros gwpl o ddiwrnodau, gallwch aros yn Hope Mountain Bed and Breakfast yng Nghymau, neu wersylla go wahanol yn Bryn Dwr Pods, Llandegla, mae’r ddau ddim ond tafliad carreg o Lwybr Cyswllt Cymru. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd a Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Mae Llwybr Cyswllt Cymru yn gysylltiad hynod bwysig rhwng dau lwybr pwysig presennol yng Ngogledd Cymru. Bydd yn denu cerddwyr o bob cwr, a fydd yn mwynhau gogoniant Gogledd Cymru, tra hefyd yn rhoi hwb i dwristiaeth leol. “Os ydych yn chwilio am dipyn mwy o her wrth gerdded o amgylch Cymru, dyma’r llwybr i chi. Mae agor y llwybr hwn yn dod â Sir y Fflint a rhan olaf arfordir Cymru yn brofiad “Cymru gyfan”. Dywedodd Ceidwad Cefn Gwlad Sir y Fflint, Stephen Lewis: “Rwyf wir wedi mwynhau cyflawnir prosiect hwn, gan ddefnyddio £30,000 o’r cymorth grant Cronfa Cymunedau’r Arfordir, ac mae wedi bod yn bleser cydweithio gydar Swyddogion Hawliau Tramwy o Gynghorau Sir y Fflint, Caer, Wrecsam a Sir Ddinbych. Mae hefyd wedi bod yn wych gweithio gyda gwirfoddolwyr, sydd yn eu tro wedi bod yn amhrisiadwy. Mae’r gwaith a wnaed wedi uwchraddio’r hawliau tramwy presennol, gan wneud y llwybr hwn yn daith sydd wir i’w mwynhau.” Mae Cronfa Cymunedaur Arfordir yn cael ei gyllido gan y Llywodraeth gydag incwm o asedau morol Ystâd Y Goron. Caiff ei ddarparu gan Gronfa’r Loteri Fawr ar ran Llywodraeth y DU ar Gweinyddiaethau Datganoledig yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru. Cadwch lygad am logo unigryw Llwybr Cyswllt Cymru! Mae mapiau o’r llwybr ar gael oddi wrth: https://fccmapping.flintshire.gov.uk/connect/analyst/?mapcfg=waleslinkpath Mae amseroedd bysus a threnau ar gael oddi wrth: www.arrivabus.co.uk/wales www.arrivatrainswales.co.uk