Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Arolwg Siopwyr yr Wyddgrug

Published: 27/06/2014

Mae’r arolwg cwsmeriaid yma’n gyfle i chi ddweud eich dweud ar ddyfodol canol tref yr Wyddgrug. Mae Towns Alive, ymgynghorwyr annibynnol, wedi eu penodi i gynnal yr arolwg o ymwelwyr ir Wyddgrug a fydd yn dechraur wythnos nesaf. Yn ystod y tair wythnos nesaf (23 Mehefin 2014 ymlaen) byddan nhw’n gofyn i bobl am eu barn drwy gynnal arolwg ar y stryd yng nghanol y dref a thrwy arolwg ar-lein ar wefan Cyngor Tref y Wyddgrug (www.moldtowncouncil.org.uk). Bydd y canfyddiadau yn cael eu defnyddio i lunio cynllun gweithredu tref ac i gynnal adolygiad o barcio yn ogystal â helpu gyda gwaith y Cyngor Tref a’r Cyngor Sir a phartneriaid eraill syn rheoli canol y dref. Maer arolwg yn rhan o brosiect sydd ar y gweill i gasglu tystiolaeth syn amlygu barn trigolion ac ymwelwyr i wellar ardal leol. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet yr Amgylchedd: “Dwi’n gobeithio y bydd pawb syn cael cyfle i roi sylwadau fel rhan or arolwg hwn yn manteisio ar y cyfle hwnnw. Mae mor bwysig ein bod yn deall beth syn dda, a beth sydd ddim cystal, pan fydd y Cyngor ai bartneriaid yn cynllunio sut i gefnogir dref.