Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llywodraeth Cymru yn caniatáu atal y cynllun Hawl i Brynu

Published: 23/02/2017

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cais Cyngor Sir y Fflint i atal y cynllun Hawl i Brynu. Dros y chwarter canrif diwethaf mae nifer y tai cyngor sydd ar gael iw rhentu wedi lleihau oherwydd y cynllun hwn, ond mae nifer y bobl sydd angen tai cyngor wedi parhau i gynyddu. Rhwng 1996 a 2016 gwerthwyd 1,606 o eiddo. Yn ystod 2016 fe ddechreuodd y Cyngor roi ei Raglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) ar waith, sy’n cynnwys adeiladu 500 o dai cyngor a fforddiadwy yn Sir y Fflint erbyn 2020. Drwy atal y cynllun Hawl i Brynu bydd Sir y Fflint yn cadw ei stoc bresennol o dai cyngor yn ogystal â diogelu ei dai cyngor newydd er mwyn creu cymaint o gyfleoedd â phosibl i bobl leol gael byw yn Sir y Fflint. Mae Llywodraeth Cymru wedi caniatáu i’r Cyngor atal y cynllun am bum mlynedd. Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Aaron Shotton: “Rydw i’n falch iawn bod y Prif Weinidog wedi cymeradwyo ein cais i atal y cynllun Hawl i Brynu yn Sir y Fflint. Mae’r polisi Hawl i Brynu wedi arwain at leihad yn nifer y tai cymdeithasol, ond mae atal y cynllun ynghyd â’r rhaglen i adeiladu tai cyngor newydd yn sicrhau y gellir darparu tai fforddiadwy o ansawdd yn Sir y Fflint ac yn adeiladu ar un o brif flaenoriaethaur Cyngor. Dywedodd Clare Budden, Prif Swyddog, Cymuned a Menter: “Mae atal y cynllun Hawl i Brynu yn hanfodol er mwyn gwneud y gorau o’r cyfleoedd tai i bob unigolyn a theulu sy’n byw yn Sir y Fflint, bydd hefyd yn atgyfnerthu ein cynlluniau i barhau i foderneiddio a buddsoddi mewn tai cyngor a gwasanaethau ar gyfer ein tenantiaid.”