Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Agoriad swyddogol Campws Dysgu Treffynnon

Published: 06/03/2017

Agorwyd Campws Dysgu Treffynnon yn swyddogol gan Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Y Cynghorydd Aaron Shotton, a’r Cadeirydd, y Cynghorydd Peter Curtis, ddydd Llun 6 Mawrth. Derbyniodd y campws, sy’n ymgorffori Ysgol Uwchradd Treffynnon ac Ysgol Maes y Felin, arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru drwy ei Raglen Ysgolion yr 21 Ganrif ac Addysg, cydweithrediad unigryw gydag awdurdodau lleol i greu cymunedau addysgol addas ar gyfer yr 21 Ganrif yng Nghymru. Agorodd yr ysgolion eu drysau i ddisgyblion ym Medi’r llynedd. Mae plant cynradd a myfyrwyr oedran uwchradd yn mwynhau’r adeilad or radd flaenaf gydar holl gyfleusterau TG modern i gynorthwyo gyda dysgu. Cafodd capsiwl amser ei adeiladu yn wal y prif ffreutur lle cofnododd plant hanes eu hysgolion ar gyfer cenedlaethaur dyfodol. Ar ôl taith o amgylch yr ysgol, cafodd gwesteion yn yr agoriad swyddogol gyfle i fwynhau gwrando ar gôr yr ysgol gynradd a chyflwyniad gan Gyngor yr Ysgol Uwchradd. Yna dadorchuddiodd y Cynghorydd Shotton blac ar gyfer Ysgol Treffynnon gan ddweud: “Rwyf wrth fy modd yn cael y cyfle i agor y campws dysgu newydd ffantastig hwn yn swyddogol ac rwy’n sicr y bydd y cyfleusterau newydd yn cael effaith barhaol ar lwyddiannau addysgol disgyblion. Bydd yr adeilad hwn sydd o’r radd flaenaf yn darparu amgylchedd ysbrydoledig ar gyfer dysgu ac addysgu ac mae’n dangos ymroddiad gwirioneddol Cyngor Sir y Fflint i ddyfodol ei breswylwyr ifanc. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ymwneud â’r prosiect hwn.” Yna dadorchuddiodd y Cynghorydd Peter Curtis y plac ar gyfer Ysgol Maes y Felin, gan ddweud: “Mae Ysgol Maes y Felin yn ysgol gynradd newydd ysblennydd sy’n fodern a disglair gyda digon o le. Mae yma gyfleusterau rhagorol y tu mewn ar tu allan sy’n wych i ddysgu a hefyd yn ddiogel. Maer ffaith fod y ddau gyfleuster gwych hyn ar yr un safle hefyd yn golygu y bydd y trawsnewidiad o addysg gynradd i uwchradd yn llai brawychus in disgyblion yn y dyfodol.” Dywedodd John Weir, Pennaeth Ysgol Treffynnon a Peter Davies, Pennaeth Ysgol Maes y Felin: “Mae wedi bod yn bleser ac anrhydedd i allu symud ein hysgolion i gyfleusterau mor fodern ac, ers mis Medi, mae’r disgyblion wedi ffynnu yn eu hamgylchedd newydd. Mae’r disgyblion a staff wrth eu bodd yn gweithio mewn amgylchedd mor wych ac rydym ein dau yn gobeithio y bydd y cyfleuster o fudd, nid yn unig in pobl ifanc lleol, ond hefyd y gymuned leol am nifer o flynyddoedd i ddod. Ychwanegodd Mr Weir: “Mae’r cyfleuster newydd ffantastig hwn wedi helpu i symud ein gwelliannau ymlaen ac mae Ysgol Treffynnon yn edrych ymlaen i dderbyn blwyddyn lawn o ddisgyblion fis Medi 2017. Ychwanegodd Mr Davies: “Mae wedi bod yn gyfnod eithriadol o dda ir ysgol gynradd ers Medi. Maer niferoedd wedi cynyddu o 282 i 328 o ddisgyblion ar hyn o bryd. Mae hyn yn gynnydd sylweddol ac rydym wedi dygymod â hynny’n hawdd a hefyd rydym wedi penodi athro ychwanegol ar gyfer y plant iau. Mae targedau disgyblion wedi eu gosod ar draws yr ysgol yn y ddau gyfnod allweddol ac rydym yn gobeithio sicrhau perfformiadau yn y chwartel uchaf ym Mlwyddyn 2 a Blwyddyn 6 erbyn diwedd y flwyddyn academaidd. Dywedodd Jim Parker, Rheolwr Gyfarwyddwr dros Galliford Try Building yn y Gogledd Orllewin: “Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda’r cyngor ar holl ysgolion oedd yn rhan o adeiladur cyfleuster newydd eiconig hwn. I bawb o Galliford Try sydd wedi gweithio ar y prosiect hwn, mae’n parhau’n foddhad enfawr i wybod y bydd y disgyblion hyn yn elwa or cyfleusterau hyn am flynyddoedd i ddod.