Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyllid pellach ar gyfer adfywio Glannau Dyfrdwy

Published: 02/03/2017

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £370,000 pellach i Cyngor Sir y Fflint ar gyfer dau brosiect adfywio yng Nglannau Dyfrdwy. Bydd yr arian, o’r rhaglen Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid, yn cael ei ddefnyddio ar Gam 2 Pen y Llan Court yng Nghei Connah a hefyd adeiladu ar y cynlluniau Tir y Cyhoedd y mae’r ardal wedi elwa ohonynt dros y tair blynedd ddiwethaf. Bydd Cam 2 cynllun Pen y Llan Court yn elwa o £100,000 a bydd gwelliannau a drefnwyd yn cynnwys gwella diogelwch, cyfleusterau ac ymddangosiad cyffredinol. Bydd £270,000 arall yn cael ei fuddsoddi mewn cynlluniau Tir y Cyhoedd i wella cyfleusterau cludiant a Theithio Llesol i annog opsiynau teithio mwy cynaliadwy a gwella’r amgylchedd. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint: “Mae croeso mawr i’r ddau gyhoeddiad yma, maent yn bosibl yn unig oherwydd y gwaith gwych maer Cyngor eisoes wedi ei wneud yn cyflwynor rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yng Nglannau Dyfrdwy. Mae Glannau Dyfrdwy yn ganolbwynt economaidd o bwys ar gyfer Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr ac maer rhaglen hon yn elfen bwysig o ran hybu ffyniant y rhanbarth.”