Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Lwfans Aelodau 2013/14

Published: 27/06/2014

Mae’n rhaid i bob Cyngor Sir yng Nghymru wneud trefniadau i gyhoeddi symiau pob categori o lwfans a dalwyd i bob aelod etholedig ac aelod cyfetholedig yn y flwyddyn ariannol flaenorol. Mae’r trefniadau yn Sir y Fflint yn cynnwys:- Y datganiad hwn i’r wasg Cyhoeddi’r wybodaeth ar wefan y Cyngor Trefnu bod yr wybodaeth ar gael yn amrywiol lyfrgelloedd y Cyngor Trefnu bod yr wybodaeth ar gael i’w harchwilio yn y Brif Dderbynfa, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug. Yn ychwanegol, mae copi cyfredol o Atodlen Cydnabyddiaethau Ariannol Aelodau ar gyfer 2014/15 hefyd ar gael ar wefan y Cyngor ac i’w archwilio yn y Brif Dderbynfa, Neuadd y Sir, yr Wyddgrug.