Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Opera’n mynd ar y bysiau

Published: 10/03/2017

Cafodd plant ysgol lleol eu swyno wrth deithio i’r ysgol fore Gwener. Gwelodd disgyblion Ysgol Alun yn yr Wyddgrug ‘fflachdorf operatig ar eu ffordd ir ysgol. Gyda nhw ar y daith, ac yn cefnogi’r fenter, roedd Ysgrifennydd Economi Llywodraeth Cymru, Ken Skates, ac aelodau a swyddogion Cyngor Sir y Fflint. Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu’r prosiect ‘Opera ar y bysiau’ trwy ei raglen gyfuno arloesol. Nod y rhaglen yw galluogi ac annog pobl i gymryd rhan weithredol yn y celfyddydau, mewn diwylliant a threftadaeth ac i bwysleisio y gall cymryd rhan mewn gweithgarwch diwylliannol roi hwb i sgiliau, diddordeb, hunanhyder ac uchelgais. Bu Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint yn gweithio gyda gwasanaeth diwylliant Cyngor Sir y Fflint a sefydliadau diwylliannol eraill i ddatblygu rhaglen arloesol o weithgareddau, a ddarparwyd mewn cymunedau a lleoliadau ar draws y sir. Bwriad ‘Opera ar y bysiau yw ysbrydoli disgyblion gyda pherfformiad fflachdorf gan gantorion opera proffesiynol, wedi’i gyflwyno’n rhan o’r daith ddyddiol i’r ysgol. Yna, cafodd y disgyblion gyfle i ddysgu mwy am opera mewn cyfres o weithdai hwyliog a diddorol yn yr ysgol, wedi’u cynnal gan y cantorion eu hunain. Maer prosiect arloesol hwn wedii ddarparu mewn partneriaeth â sefydliad CânSing ac Opera Genedlaethol Cymru. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: “Y gobaith yw y bydd y ffordd hwyliog hon o ymgysylltu â phobl ifanc yn codi eu hymwybyddiaeth o genre cerddoriaeth sydd, o bosib’, yn anghyfarwydd iddyn nhw. Roedd y gweithdai a gafwyd ar ôl y fflachdorf yn rhoi cyfle iddyn nhw brofi cerddoriaeth opera a dysgu rhywfaint amdani.” Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet yr Economi a Seilwaith, Ken Skates: “Rydw in falch bod Cymrun arwain y ffordd wrth gael gwared â rhwystrau i ddiwylliant gan sicrhau bod modd i bawb brofi a mwynhau ein treftadaeth. O gefnogi pobl ifanc yn yr ysgol hyd at helpu oedolion i ddysgu sgiliau trwy wirfoddoli, mae ein rhaglen gyfuno’n dod o hyd i gyfleoedd newydd i ymgysylltu â phobl na fyddent fel arfer am brofi diwylliant a threftadaeth. Rwyn falch iawn y byddwn yn ehangu ein rhaglen gyfuno i gynnwys y flwyddyn ariannol nesaf. Y llynedd, bu dros 1,500 o bobl yn rhan o weithgareddaur rhaglen gyfuno ledled Cymru, a bu i 500 or rheini fynd ar gyrsiau neu ennill sgil neu gymhwyster newydd. Mae Sir y Fflint yn un o ddeg o ardaloedd yng Nghymru sy’n cymryd rhan. Gwybodaeth: Mae Cyfuno: Creu Cyfleoedd drwy Ddiwylliant yn rhaglen arloesol sy’n defnyddio’r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth i gefnogi rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. Mae’n cefnogi awdurdodau lleol a sefydliadau cymunedol a diwylliannol i ddod o hyd i gyfleoedd diwylliannol newydd a chyffrous, i helpu â hyder, sgiliau, cyrhaeddiad a chyflogadwyedd. Mae Sir y Fflint yn un o ddeg sy’n cymryd rhan yn y rhaglen yn 2016-17. Bydd y rhaglen yn parhau yn 2017-18. Mae mwy o wybodaeth ynglyn â’r rhaglen i’w chael ar y wefan: http://llyw.cymru/cyfuno.