Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Galwad i gadw’n heini ar gyfer ysgol leol

Published: 08/03/2017

Mae Pafiliwn Jade Jones yn y Fflint yn cymryd rhan mewn ymgyrch i helpu i godi arian ar gyfer ysgol leol. Mae’r ymgyrch yn cael ei alw’n “Gadewch i Ni Symud am Fyd Gwell”, sy’n ymgyrch byd-eang i fynd i’r afael â gordewdra a diffyg ymarfer corff. Y nod yw ymgysylltu â’r gymuned i ddod ac ymarfer corff i helpu’r gymuned leol a chroesawu ffordd o fyw iachach. Gall unrhyw un ddod a chymryd rhan drwy roi cynnig ar yr offer cardiofasgwlaidd fel y melinau traed, beics a thraws hyfforddwyr. Po fwyaf o bobl fydd yn cymryd rhan, po fwyaf o arian a godir i Maes Hyfryd. Dyma’r ail flwyddyn i’r ganolfan gymryd rhan ac maent wedi dewis Maes Hyfryd gan fod ganddynt berthynas agos gyda’r ysgol eisoes. Mae disgyblion yn ymweld â’r ganolfan sawl gwaith yr wythnos, gan gynnwys dau sesiwn yn y gampfa lle mae staff ffitrwydd yn darparu sesiwn hyfforddi grwp. Dywedodd Alan Duppa o Gyngor Sir y Fflint, trefnydd y digwyddiad: “Mae’n amlwg bod disgyblion wrth eu bodd yn dod i’r gampfa ac mae yna bob amser lawer o chwerthin ac maent yn cael budd mawr o’r ymarfer corff. Mae bob amser yn bleser gweithio gyda myfyrwyr Maes Hyfryd. Dyma pam ein bod yn teimlo y byddain wych pe bai Maes Hyfryd yn ennill y gwobrau. Os gallwn wneud 3 miliwn o symudiadau (fel y mesurir gan yr offer), bydd yr ysgol yn ennill set ARKE llawn – set ymarfer llawn, perffaith ar gyfer plant gan ei fod yn cynnwys cod lliw, gwaith grwp ac mae’n llawer o hwyl.” Mae’r her yn dechrau ar 13 Mawrth a bydd yn rhedeg am 18 diwrnod tan ddiwedd Mawrth. Am fwy o fanylion ac i wybod sut y gallwch gymryd rhan, gallwch gysylltu â’r Tîm Ffitrwydd ar 01352 704308.