Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cadeirydd yn llongyfarch preswylydd Sir y Fflint

Published: 08/03/2017

Mae Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint wedi croesawu preswylydd lleol i Neuadd y Sir er mwyn ei llongyfarch am dderbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig. Derbyniodd Mrs Aird y fedal am ei gwaith gwirfoddol gyda’r Lleng Brydeinig. Cafodd ei llongyfarch gan y Cynghorydd Peter Curtis a bu iddo hefyd gyflwyno mwg arbennig iddi ar ran Cyngor Sir y Fflint. Yn y llun: Wendy Coats – cyfaill Mrs Aird, Mrs Jennifer Curtis – consort y Cadeirydd, Mrs Aird a Chadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Peter Curtis.