Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Strategaeth Gwasanaethau Cwsmer

Published: 10/03/2017

Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint fabwysiadu Strategaeth Gwasanaeth Cwsmer newydd pan fydd yn cyfarfod nesaf ar 14 Mawrth. Maer strategaeth hon wedii halinio gydar Strategaeth Ddigidol a gymeradwywyd yng nghyfarfod y Cabinet fis diwethaf ac yn ymdrin â sut y bydd y Cyngor yn darparu gwasanaethau iw gwsmeriaid mewn modd cyfoes ac effeithlon. Maer strategaeth wedii strwythuro o amgylch y tair ffrwd waith ganlynol: 1. Wyneb yn wyneb - a ddarperir drwy Ganolfannau Cyswllt y Cyngor ar draws y Sir 2. Dros y ffôn – cyfle i ddatblygu gwaith y ganolfan gyswllt a fydd yn gwneud defnydd effeithlon o adnoddau staff ac yn ceisio datrys ymholiadau cwsmeriaid yn effeithiol ar y pwynt cyswllt cyntaf. 3. Digidol – gall cyflwyno gwasanaethau digidol arbed arian, gwella hygyrchedd gwasanaethau ar gyfer mwyafrif y preswylwyr a rhyddhau adnoddau i gefnogir cwsmeriaid mwyaf diamddiffyn. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol Cyngor Sir y Fflint: Maen rhaid i ddarpariaeth gwasanaeth y Cyngor yn y dyfodol ganolbwyntio ar symleiddior modd y mae cwsmeriaid yn derbyn gwasanaethau, deall eu taith gydar Cyngor, rhoi rheolaeth i gwsmeriaid o ran y gwasanaethau y maent yn eu defnyddio, gwrando ac ymateb i adborth. Bydd gwasanaethau y gellir eu darparun ddigidol yn cael eu datblygu, er mwyn gallu canolbwyntior adnoddau drud ar y gwasanaethau na ellir eu darparun ddigidol i gefnogir cwsmeriaid mwyaf diamddiffyn. Maer Strategaeth Gwasanaeth Cwsmer arfaethedig yn ategu at y Polisi Gwasanaeth Cwsmer syn disgrifior hyn y gall cwsmeriaid ei ddisgwyl pan fyddant yn cysylltu âr Cyngor wyneb yn wyneb, dros y ffôn neun ddigidol. Bydd gweithrediad y strategaeth hon yn cynnwys adolygiad parhaus or Polisi Gwasanaeth Cwsmer a gwneir newidiadau yn seiliedig ar anghenion y cwsmeriaid.