Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol

Published: 10/03/2017

Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint adolygu adroddiad drafft ar berfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol ac ystyried a ywr adroddiad yn darparu cyfrif cywir a chlir o ofal cymdeithasol yn Sir y Fflint. Maer adroddiad yn gwerthuso perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu gwasanaethau i bobl i sicrhau eu lles. Eleni mae arddull yr adroddiad wedii ddiwygio yn dilyn y canllawiau newydd gan Lywodraeth Cymru, ac yn cadarnhau gwir gynnydd yn y gwasanaethau. Mae gan y Cyngor lawer iw ddathlu o ran y gwaith a wnaed i hyrwyddo a gwella lles pobl yn y Sir, gan gynnwys: 1. Datblygu a phrofi modelau o gydweithrediad yn ein prosesau datblygu a chomisiynu gwasanaethau. 2. Ymgorfforir model dilyniant o fewn Anableddau Dysgu. 3. Parhau i gyflawni canlyniadau personol yr unigolion yr ydym yn eu cefnogi trwy ganfod beth syn bwysig iddynt, 4. Parhau i weithio gyda darparwyr iechyd a darparwyr annibynnol i atal derbyniadau diangen ir ysbyty a bod unigolion yn dychwelyd iw cartrefi cyn gynted â phosibl. 5. Ymgymryd â gwaith arloesol mewn partneriaeth ân darparwyr gofal preswyl a Helen Sanderson Associates i ddarparu ein rhaglen A Place Called Home, Delivering What Matters. 6. Gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu canolfan ymyrraeth gynnar yn y Gwasanaethau Plant. 7. Y Gwasanaethau Plant yn parhau i berfformion dda er gwaethaf cynnydd sylweddol mewn galw 8. Gweithion agos gydag unigolion syn defnyddio gwasanaethau, eu teuluoedd a staff i ystyried modelau darparu amgen. Maer gweithlu yn flaenoriaeth allweddol ac maer Cyngor yn cefnogi a datblygu staff i sicrhau eu bod yn gymwys ac yn wybodus i ddarparur arfer syn ofynnol yn ôl Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Mae canolbwynt cadarn ar ansawdd ac ymarfer wedii ddatblygu ac mae strwythur rheoli newydd wedii gyflwyno yn y Gwasanaethau Plant. Bydd y Cyngor yn parhau i gefnogi darparwyr annibynnol gyda recriwtio a chynaliadwyedd busnes. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol: Asesiad cyffredinol y Cyngor yw bod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i gymell gwelliant yn y gwasanaeth, gan sicrhau fod gennym ystod effeithiol o wasanaethau o ansawdd da syn cefnogi a diogelu pobl ddiamddiffyn. Gyda phobl wrth wraidd ein gwasanaeth rydym wedi ymrwymo i roir gofal gorau posibl i breswylwyr syn diwallu anghenion unrhyw un ar draws y sir sydd efallai angen defnyddior gwasanaethau.