Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhaglen dai yn parhau i ddatblygu

Published: 10/03/2017

Dwy flynedd i mewn i’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP), mae’r targed o adeiladu 500 o gartrefi newydd a fforddiadwy yn symud ymlaen yn ôl y disgwyl. Mae ystod o safleoedd newydd mewn cymunedau trefol a gwledig ledled y sir wedi’u nodi a all, o bosibl, ddarparu 363 o gartrefi cyngor, cartrefi rhent fforddiadwy a chartrefi fforddiadwy i’w prynu yn ychwanegol, gan roi cyfanswm o 507 ar ôl eu cyfuno â’r safleoedd eraill hynny sydd eisoes yn y rhaglen. Y targed gwreiddiol ar gyfer tai Cyngor oedd i adeiladu 200 o gartrefi dros 5 mlynedd; ac mae’r adroddiad yn nodi’r potensial ar gyfer 277. Mae’r safleoedd newydd yn cynnwys tir yn; Yr hen Ganolfan Ieuenctid, Gronant Maes Gwern, yr Wyddgrug Ffordd Hiraethog, Mostyn Llys Alun, Rhydymwyn Canolfan Melrose, Shotton Crib y Gwynt, Trelogan Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Rwyf wrth fy modd gyda’r cynnydd ardderchog sydd eisoes wedi’i wneud wrth gyflawni SHARP mewn amser mor fyr. Mae’r galw am dai cymdeithasol a fforddiadwy yn ein holl gymunedau yn parhau i dyfu ac mae mor bwysig ein bod yn parhau â’r momentwm sylweddol sydd eisoes wedi’i sicrhau yn ein cynlluniau uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r galw. “Mae’r safleoedd newydd a nodwyd ledled y sir eto yng nghanol ein cymunedau lleol a gallant ddarparu rhagor o dai cymdeithasol a fforddiadwy o ansawdd uchel, helpu i gynnal y cymunedau hynny a chreu cyfleoedd cyflogaeth.” Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet dros Dai: “Wrth ddarparu SHARP y Cyngor, mae’n hanfodol ein bod yn cydnabod anghenion a dyheadau ein cymunedau gwledig a threfol. Bydd y safleoedd newydd hyn, ynghyd â’r cynnydd ardderchog a wnaed eisoes, yn galluogi’r Cyngor i wneud hynny a gwireddu ei uchelgais ar gyfer tai cymdeithasol a fforddiadwy.” Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried datblygiad camau allweddol nesaf y SHARP, gan gynnwys gwaith hyfywdra manwl ar y safleoedd newydd a nodwyd yn eu cyfarfod ddydd Mawrth, 14 Mawrth.