Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Symiau Gohiriedig a Thaliadau Adbrynu Rhannu Ecwiti

Published: 10/03/2017

Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gytuno ar adroddiad ar symiau gohiriedig a thaliadau adbrynu rhannu ecwiti pan fydd yn cyfarfod nesaf ar 14 Mawrth. Mae’r adroddiad yn adolygu defnydd y symiau gohiriedig ac yn rhoi argymhellion diwygiedig yn dilyn y cytundebau Adran 106 diweddar a blaenoriaeth y Cyngor i adeiladu tai fforddiadwy ar draws Sir y Fflint trwy’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP). Mae’r adroddiad yn argymell y dylai symiau gohiriedig a dalwyd i’r Cyngor gael eu cadw yn ardal y Cyngor Cymuned lleol os nad yw’r contractwr wedi darparu tai fforddiadwy. Mae hefyd yn argymell os ceir swm gohiriedig a bod tai fforddiadwy wedi’u hadeiladu yn yr ardal, y gellir defnyddio’r arian trwy SHARP i ddatblygu tai fforddiadwy yn ardaloedd eraill y Sir. Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet dros Dai Cyngor Sir y Fflint: “Mae’r argymhellion hyn yn caniatáu hyblygrwydd i ddefnyddio’r arian yn yr ardal leol pan nad yw tai fforddiadwy wedi’i ddarparu, ond hefyd, os oes tai fforddiadwy wedi’u darparu, gall y Cyngor wneud y gorau o arian SHARP a sicrhau bod tai fforddiadwy yn cael eu darparu yn yr ardaloedd lle mae’r angen mwyaf a darparu tai mewn ardaloedd syn llai deniadol ar gyfer datblygiad marchnad, ac felly yn annhebygol o fod â thai fforddiadwy. Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o’r taliadau adbrynu Rhannu Ecwiti a sut y gellir eu defnyddio i ddarparu rhagor o dai fforddiadwy ledled Sir y Fflint. Fel rhan o’r broses gynllunio, gall ddatblygwr ddarparu tai fforddiadwy trwy fodel Rhannu Ecwiti, gyda’r person cymwys o’r gofrestr Tai Fforddiadwy yn prynu 70% o werth y farchnad a’r Cyngor yn cadw 30% o ecwiti yn yr eiddo trwy bridiant cyfreithiol. Aeth y Cynghorydd Brown ymlaen i nodi: “Os yw’r Cyngor yn cael ad-daliad am y benthyciad ecwiti, gellir defnyddio’r arian mewn nifer o ffyrdd i ddarparu tai mwy fforddiadwy ar gyfer preswylwyr – fel cynlluniau ariannu cyfatebol trwy SHARP neu’r rhaglen Grant Tai Cymdeithasol, prynu eiddo presennol ar gyfer ymgeiswyr ar y Gofrestr Tai Arbenigol neu gaffael ac ailwampio tai gwag.”