Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Prynhawn o hanes lleol

Published: 02/07/2014

Mae’r ganolfan @tebion yn Llyfrgell ac Oriel yr Wyddgrug yn cynnal cyfarfod ar gyfer haneswyr brwdfrydig lleol ddydd Sadwrn 19 Gorffennaf rhwng 2pm a 5pm. Bydd yr hanesydd a’r athro Paul Brighton yn cadeirio cyfarfod sy’n cynnwys sgyrsiau am hanes diwydiant a gwaith yn Sir y Fflint a bydd sesiwn holi ac ateb yn dilyn. Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn boblogaidd ymhlith nifer sydd â diddordeb yn eu hardal leol ac mae croeso i bawb. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Simon Gotts, Llyfrgellydd Gwybodaeth, Llyfrgell ac Oriel yr Wyddgrug, Ffordd yr Iarll, yr Wyddgrug ar 01352 754791.